Paid stopio dysgu: Mae diogelu cyfleoedd addysg oedolion ledled Cymru yn hanfodol

adult learning class.png

Mae ColegauCymru yn nodi Wythnos Addysg Oedolion (21-27 Medi) ac effaith drawsnewidiol addysg oedolion ar fywydau pobl, gan rybuddio ar yr un pryd fod tanariannu parhaus ar draws addysg bellach yn rhoi pwysau cynyddol ar gyfleoedd i ddysgwyr oedolion ledled Cymru. 

Mae addysg oedolion yn cynnig cyfleoedd i bobl ar bob cam o’u bywydau, boed hynny er mwyn meithrin sgiliau hanfodol, dysgu Cymraeg, magu hyder digidol, ennill cymwysterau newydd, ailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd neu roi cynnig ar rywbeth newydd. 

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru gael mynediad at ystod eang o gyrsiau, digwyddiadau a sesiynau blasu am ddim, yn ogystal â dathlu cyflawniadau dysgwyr ac arddangos y cyfleoedd sydd ar gael drwy golegau a darparwyr eraill. 

Heriau tanariannu a’r galw uchaf erioed 

Mae Wythnos Addysg Oedolion hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y pwysau cynyddol sy’n wynebu’r sector. 

Nid yw’r cyllid wedi cadw i fyny â’r galw uchaf erioed am gyrsiau coleg amser llawn. Mae’r ffigurau presennol yn dangos bod bron i 5,000 o ddysgwyr yn astudio heb gyllid cysylltiedig, tra bod cannoedd o ymgeiswyr wedi methu â sicrhau lle mewn coleg. 

Wrth i golegau weithio i ateb y galw digynsail hwn, mae risg gynyddol y bydd y pwysau ariannol ar ddarpariaeth amser llawn yn parhau i erydu cyllidebau ar gyfer dysgu rhan-amser ac addysg oedolion. Er bod hyblygrwydd wedi’i roi i golegau i symud adnoddau rhwng gwahanol ddulliau o ddarparu addysg, nid yw hyn yn ateb hirdymor i’r her ariannu ehangach sy’n wynebu’r sector. 

Degawd o ddirywiad 

Daw’r pwysau hyn ar adeg pan fo cyfranogiad mewn dysgu oedolion eisoes wedi gostwng yn sylweddol. Mae nifer y dysgwyr rhan-amser mewn addysg bellach wedi gostwng 45% dros y degawd diwethaf, tra bod cyfranogiad mewn dysgu cymunedol awdurdodau lleol wedi gostwng 49%. 

I lawer o oedolion, mae dysgu rhan-amser a hyblyg yn cynnig y llwybr mwyaf hygyrch i addysg, yn enwedig i’r rhai sy’n cydbwyso gwaith, cyfrifoldebau teuluol neu heriau iechyd. Ni all Cymru fforddio gweld y cyfleoedd hyn yn lleihau ymhellach. 

Galwad i weithredu 

Mae ColegauCymru yn credu y dylai addysg oedolion fod wrth galon Cymru decach, fwy medrus a mwy ffyniannus. Bydd diogelu cyfleoedd i ddysgwyr oedolion yn gofyn am fuddsoddiad o’r newydd mewn dysgu hyblyg, ailsgilio a meithrin sgiliau, ochr yn ochr â chamau i fynd i’r afael â’r pwysau ariannu ehangach sy’n wynebu addysg bellach. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

"Mae addysg oedolion yn newid bywydau. Mae’n helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a manteisio ar gyfleoedd newydd ar bob cam o’u bywydau." 

"Ond ni allwn ddathlu addysg oedolion heb gydnabod yr heriau y mae’n eu hwynebu. Mae colegau’n nodi’r galw uchaf erioed am addysg llawn amser heb dderbyn y cyllid sydd ei angen i gefnogi’r twf hwnnw. Ni ddylid gorfodi colegau i ddewis rhwng cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr llawn amser a chynnal cyfleoedd i oedolion ailhyfforddi, datblygu eu sgiliau a gwella eu bywydau." 

"Dylai’r dirywiad mewn dysgu rhan-amser dros y ddegawd diwethaf beri pryder i unrhywun sy’n credu mewn cyfle a symudedd cymdeithasol. Mae angen mwy o gyfleoedd addysg hyblyg ar Gymru, nid llai. Ni ddylai dysgwyr sy’n oedolion fod y rhai sy’n dioddef oherwydd pwysau ariannu ehangach o fewn y system addysg." 

"Os ydym am gael Cymru lle gall pawb barhau i ddysgu drwy gydol eu hoes, mae angen ymrwymiad o’r newydd i addysg oedolion a’r buddsoddiad sydd ei angen i wireddu hynny." 

Rhagor o wybodaeth 

Dysgwch fwy am Wythnos Addysg Oedolion, gan gynnwys cyrsiau, digwyddiadau a sesiynau blasu am ddim sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. 

Wythnos Addysg Oedolion 

#PaidStopioDysgu #WythnosAddysgOedolion 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.