Yr wythnos hon, mae ColegauCymru wedi cyflwyno dau ymateb ar wahân, ond cysylltiedig, i Bwyllgor y Blynyddoedd Cynnar Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Mae’r ddwy ddogfen hyn yn bwysig gan eu bod yn nodi’r hyn yr ydym yn credu y dylai fod yn flaenoriaethau i raglen waith y Pwyllgor yn ystod tymor Senedd Cymru sydd i ddod (2026-30), tra hefyd yn tynnu sylw at y pwysau cyllidebol sy’n wynebu’r sector addysg bellach a’r angen brys i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithredu.
Rydym wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor yn amlinellu’r pwysau cyllidebol sy’n wynebu’r sector addysg bellach yng Nghymru. Mae cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn addysg bellach yn rhywbeth y dylid ei ddathlu. Fodd bynnag, gyda bwlch ariannu amcangyfrifedig o £23.5 miliwn yn y flwyddyn academaidd hon, a chyda’r pwysau ariannol a ragwelir yn waeth fyth yn 2027-28, mae colegau’n wynebu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch darpariaeth a chapasiti ar adeg pan fo’r galw gan ddysgwyr yn cynyddu’n sydyn.
Darllenwch ein llythyr at Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd
Gan nad yw’r cyllid yn cynyddu i gyd-fynd â’r lefelau uchaf erioed o gofrestriadau dysgwyr, mae hyn wedi golygu bod bron i 5,000 o ddysgwyr heb gyllid a bod cannoedd o ymgeiswyr wedi methu â sicrhau lle mewn coleg. Mae tanariannu parhaus yn bygwth sefydlogrwydd ariannol, gwasanaethau cymorth i ddysgwyr, darpariaeth y cwricwlwm ac, o bosibl, swyddi, tra hefyd yn cynyddu nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae colegau hefyd yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd y niferoedd uwch o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a phatrymau cofrestru sy’n newid, yn enwedig y galw cynyddol am gyrsiau galwedigaethol. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol ar unwaith ar gyfer 2026-27 a sicrhau bod model cyllido addysg bellach yn cael ei ariannu’n llawn o 2027-28 ymlaen, gyda lleiafswm o £40 miliwn yn ofynnol y flwyddyn nesaf er mwyn ateb y galw a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector.
Mewn cyflwyniad ar wahân, ymatebodd ColegauCymru i ymgynghoriad y Pwyllgor ar ei flaenoriaethau - a roddodd gyfle inni restru saith maes o bwysigrwydd allweddol i’r sector addysg bellach yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod. Y pwysicaf oll oedd y pwysau cyllidebol y mae colegau’n eu hwynebu oherwydd y lefelau uchaf erioed o gyfranogiad ymhlith dysgwyr. Mae mynd i’r afael â’r mater cyllidebol yn rhagofyniad i’n chwe blaenoriaeth arall, sef:
- Yr angen am Lwybr Dysgu a Dilyniant newydd i bobl 14-19 oed ac ymestyn y rhaglen Prentisiaethau Iau;
- Sicrhau bod cyngor ac arweiniad annibynnol o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr ôl-16, ynghyd ag asesiad o gynaliadwyedd chweched dosbarthiadau ysgol bach;
- Buddsoddi mewn teithio i ddysgwyr fel nad yw costau a mynediad at drafnidiaeth bellach yn rhwystr rhag cael mynediad at addysg bellach;
- Ymrwymiad i Raglen Brentisiaethau newydd, gan ddarparu o leiaf 125,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed yn ystod y tymor Senedd hwn;
- Gwrthdroi toriadau i ddysgu oedolion a buddsoddi mewn cydnabod dysgu blaenorol (RPL), gan alluogi oedolion i gael cydnabyddiaeth am y sgiliau sydd ganddynt eisoes;
- Darparu’r cymorth ariannol y bydd ei angen ar golegau i recriwtio staff newydd ac uwchsgilio staff presennol er mwyn gallu darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn parhau i alw ar bob plaid yn y Senedd i gydweithio ar gytundeb cyllidebol sy’n blaenoriaethu buddsoddiad mewn pobl ifanc ar adeg pan fo nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cynyddu. Mae colegau mewn sefyllfa dda i fod yn rhan o’r ateb i’r broblem hon, ond rhaid darparu adnoddau priodol iddynt er mwyn iddynt allu gwneud hynny.
Gwybodaeth Bellach
Llythyr at Gadeirydd Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd
Darllenwch ein llythyr at Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd
Senedd Cymru
Pwyllgor y Blynyddoedd Cynar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd
Alex Still, Rheolwr Polisi
Alex.Still@ColegauCymru.ac.uk