Meddwl newydd nid hen strwythurau sy'n ofynnol ar gyfer adnewyddu a gwytnwch yn yr economi

Male hands with pen and paper.png

ColegauCymru'n ymateb i adroddiad yr OECD ar lywodraethu datblygu rhanbarthol a buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol 

Mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad yr OECD (Organisation for Economic Co-operation & Development) The Future of Regional Development and Public Investment in Wales, mae ColegauCymru wedi croesawu’r ffocws ar gynyddu sgiliau’r gweithlu ond mae wedi rhybuddio mai meddwl newydd nid hen strwythurau yw’r allwedd i lwyddiant. 

Mae'r adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu sut mae gwell integreiddio ledled y DU, Cymru a sefydliadau lleol yn allweddol i sicrhau gwytnwch economaidd a lles ehangach. Mae'n cynnwys yr argymhelliad adeiladol bod angen i Gymru wella sgiliau ar lefel drydyddol, sydd yn nhermau rhyngwladol yn ofyniad ar gyfer lefelau cyrhaeddiad gwell i'r rheini sydd wedi gadael yr ysgol neu wedi cwblhau hyfforddiant galwedigaethol cychwynnol yn y coleg. 

Fodd bynnag, mae gan ColegauCymru bryderon oherwydd dyfalu ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn ac uchelgeisiau eraill a rennir ar gyfer Cymru. 

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol ColegauCymru, yr elusen addysg a hyfforddiant ôl-16 sy’n gweithio gyda rhwydwaith darparwyr addysg bellach Cymru,

“Nid yw’n syndod bod llawer o’r ffocws bellach ar y cynnig i ailgyflwyno Asiantaeth Datblygu Cymru (WDA) neu gorff hyd fraich arall. Byddai hwn yn symudiad tuag yn ôl. Mae angen meddwl newydd a ffyrdd newydd o weithio yng Nghymru ac nid dadl ddibwrpas bellach ar ailgyflwyno cwangos sydd wedi dyddio. Yn galonogol nid yw'n ymddangos mai hwn yw'r dull a argymhellir gan yr adroddiad." 

Mewn adroddiad eang, mae'r OECD yn mynd i'r afael â meysydd cymhleth rhyng-gysylltiedig treth, seilwaith, maint busnes yn ogystal â chymynroddion hanesyddol y gorffennol diwydiannol a'r rhaniad trefol/gwledig. Mae'r awduron hefyd yn tynnu sylw at sut y bydd gan weithgaredd mewn un maes polisi, fel arloesi, neu feysydd technolegol penodol, fel ynni, oblygiadau i addysg a sgiliau. 

Ychwanegodd Iestyn Davies,

“Mae canolbwyntio cyfrifoldeb mewn un corff penodol yn rhedeg y risg real iawn o greu seilo polisi, a warchodir rhag bod yn destun craffu neu yn agored i gael ei gwestiynu’n annibynnol. Gyda chymaint o agweddau ar yr her yn ymestyn ar draws llywodraethau, awdurdodau lleol yn ogystal â chyrff cyhoeddus a phreifat, rhaid i gyfrifoldeb Gweinidogion fod yn glir ochr yn ochr ag atebolrwydd democrataidd.” 

Mae'r adroddiad yn cydnabod yr her hon, gan dynnu sylw y gall y diffyg parhad presennol “hefyd gyfrannu at ddiwylliant sy'n rhoi mwy o bwys ar ddylunio polisi (yr angen am rywbeth newydd) yn hytrach na chyflawni polisi.” 

Bydd ColegauCymru’n parhau i fonitro'r maes polisi hwn a'i oblygiadau ar gyfer addysg a sgiliau, ochr yn ochr â'r cynnig i ailgyflwyno cyrff cyllido a rheoleiddio cyfryngol eraill sy'n benodol i addysg ôl-16. 

Gwybodaeth Bellach

Adroddiad: 
The Future of Regional Development and Public Investment in Wales, United Kingdom
17 Medi 2020 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.