Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru roi colegau ac addysg dechnegol wrth wraidd ei chynlluniau ar gyfer gweithgynhyrchu yn y dyfodol

Male hands with pen and paper.png

Mae ColegauCymru, yr elusen sy’n cynrychioli 13 o sefydliadau addysg bellach Cymru wedi galw ar lywodraeth nesaf Cymru i roi colegau ac addysg dechnegol wrth galon ei chynlluniau ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu a’r sector nwyddau masnachadwy yng Nghymru. Daw’r alwad wrth i'r llywodraeth bresennol gyhoeddi cynllun gweithredu gweithgynhyrchu: Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Bydd angen i Lywodraeth Gymru yn y dyfodol fod yn llawer cliriach o ran sut y mae’n cau’r bwlch rhwng ymchwil, arloesi ymarferol a datblygiad y gweithlu ar gyfer gweithgynhyrchu.”

Ychwanegodd Mr Davies,

“Mae’r sector addysg bellach yn ddiolchgar am y gefnogaeth ddiweddar a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod pandemig Covid19. Gan edrych i'r dyfodol, bydd cyllid tymor hir cynaliadwy yn hanfodol. ” 

Daw'r alwad i wella cyllid sgiliau technegol wrth i'r elusen baratoi ei llwyfan polisi ar gyfer yr etholiadau Seneddol sydd ar ddod. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y corff astudiaeth fanwl a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr rhyngwladol a oedd yn galw am integreiddio systemau sgiliau yn well â busnes a'u cymunedau lleol. 

Mae'r adroddiad yn tanlinellu y bydd buddsoddiad llywodraeth nesaf Cymru mewn sgiliau heb newid cymesur yn y ffordd y mae’n ymgymryd â'i rôl fel asiant newid economaidd yn esgor ar fudd economaidd neu gymdeithasol cyfyngedig iawn. 
Mae'r adroddiad yn dadlau ymhellach dros yr angen i greu gweithgaredd lleol, neu ardal gryfach ochr yn ochr â chynllunio cenedlaethol ac mae'n nodi'r angen i drawsnewid y ffordd y mae cymwysterau neu eu cyflwyno. Bydd newid sylfaenol i gymwysterau technegol a galwedigaethol yn helpu gweithwyr a busnesau i oroesi'r amseroedd newidiol ac effaith tymor hwy Pandemig Covid19. 
 
Ychwanegodd Mark Jones, Cadeirydd Rhwydwaith Cyllid ColegauCymru,

“Ar ddechrau’r Senedd gyfredol hon, cafodd y sector addysg bellach ei daro’n galed gan doriad i’w gyllid craidd. Rydym yn ddiolchgar am waith ac ymrwymiad parhaus cydweithwyr y llywodraeth a’r cynnydd dilynol mewn cyllid, sydd wedi cefnogi adferiad y sector. Wrth symud ymlaen, fodd bynnag, bydd angen cynyddu cyllid ymhellach i gefnogi colegau i fodloni gofynion sgiliau cynyddol cyflogwyr, a byddem hefyd eisiau symud i ffwrdd o'r dull setliad blynyddol i ganiatáu sylfaen gadarn i fusnes a cholegau gynllunio ohoni.” 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Cabinet 
Datganiad Ysgrifenedig: Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu i Gymru 
25 Chwefror 2021 

Adroddiad Ymchwil ColegauCymru
Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblugu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru
10 Chwefror 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.