Roedd ColegauCymru yn falch iawn o ddychwelyd i Ogledd Cymru yn ddiweddar, i gynnal ail rifyn y Twrnamaint Pêl-droed rhanbarthol Ability Counts ar gyfer dysgwyr colegau addysg bellach.
Cymerodd dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) a chyn-alwedigaethol o bob rhan o gampysau Grŵp Llandrillo Menai ran yn y gystadleuaeth ym Mae Colwyn, gyda’r enillwyr Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon (a ddaeth yn ail) yn symud ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Mae’r digwyddiad cynhwysol, a drefnir gan Chwaraeon ColegauCymru gyda chefnogaeth Grŵp Llandrillo Menai, wedi’i gynllunio i ymgysylltu â dysgwyr ac mae’n rhan o Brosiect Lles Actif ColegauCymru sy’n gweithio gydag 11 o golegau addysg bellach ledled Cymru, gan ymgysylltu â dros 5,000 o ddysgwyr bob blwyddyn. Yn nodweddiadol, mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddysgwyr nad ydynt eisoes yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol neu chwaraeon, gyda phwyslais ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anabledd dysgu, a allai arwain at rwystrau i gyfranogiad.
Teithiodd timau o bob un o gampysau’r Grŵp i Barc Eirias ar gyfer y gystadleuaeth, gyda thua 80 o ddysgwyr yn cymryd rhan.
Cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan bedwar o ddysgwyr chwaraeon Coleg Llandrillo a ddyfarnodd y gemau, a dau lysgennad lles a gynorthwyodd fel trefnwyr y gystadleuaeth.
Cynhaliwyd gemau anghystadleuol hefyd i sicrhau bod cymaint o ddysgwyr â phosibl yn cael y cyfle i fwynhau’r profiad.
Dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru,
“Mae twrnamaint Pêl-droed Ability Counts yn un o uchafbwyntiau calendr chwaraeon addysg bellach ac oedd yn wych gweld digwyddiad Gogledd Cymru unwaith eto’n profi’n i fod yn lwyddiant.
Mae ymgysylltu â mwy nag 80 o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn digwyddiad o’r math hwn yn dyst i ymrwymiad colegau addysg bellach i les eu dysgwyr.
Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o’r digwyddiad, gyda chydnabyddiaeth arbennig i’r tîm buddugol Goleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon a ddaeth yn ail.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, Aled Jones-Griffith,
“Rydym yn hynod falch o fod wedi cynnal ail Dwrnamaint Pêl-droed Ability Counts Gogledd Cymru ar y cyd â ColegauCymru, yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth gyntaf y llynedd.
Roedd y twrnamaint yn dangos pwysigrwydd cynnal digwyddiadau fel hyn ar gyfer pobl o bob gallu. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a phob lwc i’r timau buddugol o Goleg Meirion-Dwyfor a Glynllifon wrth gystadlu yn y twrnament cenedlaethol yng Nghaerdydd.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, ymhellach,
“Mae’n braf iawn gweld twf y Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts ar draws y sector, gan roi cyfleoedd newydd a chyffrous i ddysgwyr.
Mae cefnogi’r cynnig cynhwysol hwn gyda dysgwyr sy’n cymryd rhan fel swyddogion gemau a threfnwyr hefyd yn darparu profiad gwaith o safon yn y broses.”
Bydd timau buddugol digwyddiad Gogledd Cymru a’r rhai o’r gystadleuaeth flaenorol yn y De yn symud ymlaen i rownd derfynol genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2025.
Gwybodaeth Bellach
Strategaeth Lles Actif ColegauCymru
2020 - 2025
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk