Cynigion o ran dull gweithredu ar gyfer Cronfa Twf

pexels-charlotte-may-5965676.jpg

Ymateb Ymghyhoriad

Llywodraeth Cymru: Cynigion o ran dull gweithredu ar gyfer Cronfa Twf

Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 19 Rhagfyr 2025

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu barn ar gyflwyno Cronfa Twf Lleol gwerth hanner biliwn o bunnoedd. Mae Colegau Cymru yn gefnogol yn fras i'r amcanion a'r egwyddorion arweiniol, yn enwedig y ffocws ar sgiliau a chyflogadwyedd, cymorth busnes, seilwaith gwyrdd, a datblygiad economaidd lleol.

Mae'r pwyslais ar weithio mewn partneriaeth, cynllunio aml-flwyddyn, ac ychwanegu gwerth at raglenni presennol yn arbennig o groesawgar. Mae ColegauCymru yn cefnogi'n gryf yr egwyddor o osgoi dyblygu, gan sicrhau bod darpariaeth newydd yn ategu yn hytrach na chystadlu â darpariaeth colegau sefydledig.

Fodd bynnag, mae pryder y bydd y balans cyffredinol o gyllid a fydd yn cael ei ddyrannu i'r flaenoriaeth o gefnogi pobl i gael gwaith a chynyddu sgiliau. Er ei bod yn groesawgar y bydd y maes hwn yn gyllid refeniw yn bennaf, mae pryder y bydd cyfran wirioneddol y buddsoddiad a roddir i'r flaenoriaeth hon yn rhy isel ar y cyfan ac na fydd yn ddigonol i ddiwallu lefel yr angen. Mae buddsoddi mewn sgiliau yn elfen hanfodol o wella cynhyrchiant a chreu llwybrau i waith cynaliadwy, â chyflog da, ond o dan y cynigion hyn nid yw'n glir a fydd digon o gyllid yn cael ei ddyrannu i alluogi colegau i ddiwallu graddfa'r angen o fewn cymunedau a chyflogwyr. Mae'n bwysig bod rôl colegau mewn Pwyllgorau Cydweithredol Corfforaethol yn cael ei chryfhau, fel bod blaenoriaethau sgiliau yn cael eu datblygu a'u cyflawni mewn partneriaeth â'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion lleol a sectoraidd. Bydd hyn yn helpu i osgoi dyblygu, sicrhau mynediad teg (gan gynnwys ar gyfer ardaloedd gwledig ac arfordirol), a chynyddu effaith buddsoddiad i'r eithaf.

Mae'r Gronfa Twf Lleol yn gyfle pwysig i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gefnogi gwaith sy'n datgloi enillion twf a chynhyrchiant. Mae rhoi colegau wrth wraidd y broses i osod blaenoriaethau ac i gyflawni ymyriadau sgiliau a chyflogadwyedd yn un o'r ffyrdd gorau o wneud y mwyaf o fanteision buddsoddiad ac i sicrhau bod adnoddau'n cyrraedd y cymunedau mwyaf anghenus. Mae ColegauCymru a'r sector addysg bellach wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Pwyllgorau Cydweithredol, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y Gronfa Twf Lleol yn darparu manteision parhaol i ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru.

Gwybodaeth Bellach

Ymgynghoriad ar agor Llywodraeth Cymru
Cynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru


Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.