Myfyrio ar 12 mis heriol; edrych ymlaen at flwyddyn gynhyrchiol

Faceless students in college grounds.jpg

Wrth i flwyddyn academaidd newydd gychwyn ac wrth i ni barhau i lywio'r heriau a ddaeth yn sgil pandemig Covid19, mae ColegauCymru’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod. Rydyn ni'n ddiolchgar i staff, dysgwyr a rhanddeiliaid fel ei gilydd yn y ffordd maen nhw wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod iechyd a diogelwch pawb yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Llywodraeth Cymru yn yr ymgyrch #DaliDdysgu a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw, yr undebau llafur ac arweinwyr ein colegau i sicrhau bod ein sefydliadau addysg bellach yn parhau i fod yn amgylcheddau diogel i ddysgu a gweithio ynddynt.

Ein Blaenoriaethau ar gyfer y Flwyddyn i Ddod

  • Bydd y colegau’n cefnogi dysgwyr 16-19 oed, yn enwedig y rhai sy'n gorfod ailedrych ar feysydd o'u dysgu oherwydd yr heriau a wynebwyd yn ystod Covid19. 
  • Byddant wrth law i gynorthwyo dysgwyr sy'n oedolion sy'n gorfod ail-werthuso dewisiadau gwaith, dychwelyd i addysg neu ailhyfforddi yn sgil economi sy'n esblygu'n gyflym. 
  • Byddwn yn cefnogi ein haelodau wrth iddynt weithio i alinio addysg a hyfforddiant yn agosach ag anghenion cyflogwyr sy'n newid yn gyflym i helpu i gefnogi adferiad economaidd. 
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda'n haelodau i sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn parhau i fod wrth wraidd y gwaith a wnawn, ac i sicrhau bod dysgu galwedigaethol ac academaidd yn cael ei werthfawrogi'n gyfartal. 
  • Rhan allweddol o'n gwaith dros y flwyddyn nesaf hefyd fydd parhau i ddylanwadu ar y llywodraeth a sefydliadau perthnasol eraill i helpu i lunio polisi cyhoeddus ar y sector addysg bellach yma yng Nghymru. 
  • Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr y llywodraeth a rhanddeiliaid wrth i gynlluniau symud ymlaen mewn newidiadau i lywodraethu addysg bellach (fel rhan o'r bil CADY arfaethedig). 
  • Byddwn yn parhau i gefnogi prosiectau coleg hanfodol trwy amrywiol weithgareddau cyfoethogi a gwella megis prosiectau i gyflwyno cyfleoedd datblygu tramor i ddysgwyr a staff. 

Ar ran holl staff ColegauCymru, rydym yn diolch i ddysgwyr a staff ein colegau addysg bellach am eu cefnogaeth a'u hymgysylltiad parhaus a dymunwn flwyddyn hapus, iach a chynhyrchiol i chi i gyd. 

Dymuniadau gorau i bawb! 
 
Iestyn Davies 
Prif Weithredwr ColegauCymru 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.