Adlewyrchu ar flwyddyn gynhyrchiol yn y sector addysg bellach: Lles Actif

DSC03590-Edit.jpg

Awst 2021 – Gorffennaf 2022

Eleni, mae’r sector addysg bellach wedi dod at ei gilydd i addasu, cydweithio, ac arloesi o ganlyniad i’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 wrth gynnal cymaint â phosibl o’r cynnig arferol i ddysgwyr, staff, cymunedau a busnesau. Yma edrychwn ar rywfaint o’r gwaith gwych y mae ColegauCymru wedi’i gyflawni ar gyfer lles actif a chwaraeon mewn colegau eleni.

Yn dilyn blwyddyn heriol gyda chwaraeon a gweithgareddau dan do ac awyr agored wedi’u heffeithio’n fawr gan gyfyngiadau Covid-19, mae ColegauCymru wedi cefnogi colegau addysg bellach i hwyluso dychweliad diogel i chwaraeon cystadleuol ac wedi sicrhau bod holl chwaraeon y coleg yn gallu gweithredu i’r eithaf cyn symud ymlaen i flwyddyn academaidd 2022/23.

Comisiynodd ColegauCymru adolygiad o effaith Covid-19 ar ddysgwyr chwaraeon addysg bellach, ac wedi hynny fe wnaethom gynnal ymchwil pellach i’r cysylltiad rhwng gweithgaredd a lles a’i effaith ar gyrhaeddiad addysgol mewn addysg bellach. Roedd yr ymchwil yn cydnabod y rôl helaeth sydd gan ColegauCymru a’n Strategaeth Lles Actif wrth gefnogi SABau a dysgwyr i gael mynediad at gyfleoedd lles actif a gwirfoddoli a hyfforddi cymunedol.

Rydym hefyd wedi helpu i gyflawni sawl prosiect lles dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau fel yr Her Awyr Agored yn Nhreharris a drefnwyd fel rhan o gyllid Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru ac a welodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gwrdd â dysgwyr a gwirfoddolwyr. Fe wnaethom hefyd gyflwyno Digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach ym Mhen-bre a oedd yn bosibl o ganlyniad i gyllid Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg bellach. Roedd dychwelyd i weithgareddau wyneb yn wyneb yn cefnogi mynediad at gyfleoedd cynhwysol i ddysgwyr llai egnïol; o fenywod ifanc/merched, rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Cyflwynwyd y gweithgareddau hyn mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae ColegauCymru hefyd wedi cefnogi Llywodraeth Cymru a’r tîm gwerthuso yn ECORYS i ddarparu adroddiadau effaith a data o gyflawniad prosiect Gaeaf Llawn Lles, i ddangos effaith ehangach y rhaglen. Yn ogystal, rydym wedi helpu Llywodraeth Cymru i ddeall manteision hirdymor gweithgarwch a llesiant. Mae hyn wedi cynnwys dulliau arloesol o werthuso effaith gweithgarwch ac fe’i gwnaed yn bosibl unwaith eto trwy gyllid iechyd meddwl a ddarparwyd i’r sector addysg bellach.

Gwybodaeth Bellach

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru

Rob Baynham, Active Wellbeing and Sport Project Manager
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.