Adlewyrchu ar flwyddyn gynhyrchiol yn y sector addysg bellach: Rhyngwladol

map.jpeg

Awst 2021 – Gorffennaf 2022

Eleni, mae’r sector addysg bellach wedi dod at ei gilydd i addasu, cydweithio, ac arloesi o ganlyniad i’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 wrth gynnal cymaint â phosibl o’r cynnig arferol i ddysgwyr, staff, cymunedau a busnesau. Yma edrychwn rywfaint ar y gwaith gwych y mae ColegauCymru wedi’i wneud i gefnogi prosiectau cyfnewid rhyngwladol yn y sector yma yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith amrywiol o bartneriaid rhyngwladol ar draws y byd ar brosiectau cyfnewid rhyngwladol sy’n cyfoethogi profiadau addysgu a dysgu ar draws y sector. Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae dros 300 o ddysgwyr a 100 aelod o staff wedi bod ar ymweliad rhyngwladol, diolch i gynlluniau Erasmus+ a Turing.

Mae cynllun Erasmus+ yn ariannu symudedd ar gyfer dysgwyr a staff - mae'r profiad a'r wybodaeth a geir o'r ymweliadau hyn yn cyfrannu at ddatblygiad personol a phroffesiynol. Ailddechreuodd symudiadau a ariannwyd gan Erasmus+ yn gynnar yn 2022 ar ôl cael eu gohirio oherwydd y pandemig. Ymwelodd 158 o ddysgwyr â gwledydd gan gynnwys Sbaen, yr Almaen, yr Eidal a Ffrainc. Ym mis Mai, teithiodd dysgwyr Coleg Gwent i Tenerife lle buont nid yn unig yn datblygu eu sgiliau ffotograffiaeth, ond hefyd yn cael cyfle i brofi diwylliant gwlad wahanol.

Diolch i Gynllun Turing a ariennir gan Lywodraeth y DU, mae 185 o symudiadau dysgwyr wedi digwydd, i leoliadau pellennig gan gynnwys Cambodia, Canada a Gwlad Thai! Fel rhan o hyn, ym mis Mai, ymwelodd dysgwyr astudiaethau ceffylau o Goleg Sir Gâr â Flyinge Kungsgård, un o’r tair canolfan marchogaeth genedlaethol yn Sweden, am bythefnos gan ganolbwyntio ar ddatblygu rhagoriaeth ar gyfer y sector ceffylau. Ym mis Mawrth, ymwelodd cydweithwyr o goleg addysg bellach Sbaeneg IES Abastos, sy'n arbenigo mewn TG, dylunio gwe a chymwysterau busnes, â Choleg Penybont a Choleg Caerdydd a'r Fro. Rhoddodd y cyfleoedd hyn fewnwelediad i sawl maes gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer Sgiliau Byw’n Annibynnol, y cwricwlwm TG, a llythrennedd digidol yng Nghymru.

Mynychodd staff ColegauCymru, ynghyd â chydweithwyr o golegau addysg bellach, Llywodraeth Cymru ac Estyn, ymweliad astudio â’r Almaen lle buont yn archwilio strategaethau digideiddio ar gyfer hyfforddiant addysg alwedigaethol (VET) ac addysg oedolion. Roedd yr ymweliad, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn gyfle amhrisiadwy i gydweithwyr o wahanol wledydd ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth. Mae meithrin partneriaethau cryf ar gyfer symudedd yn rhan hanfodol o'r broses gyfnewid.

Ddiwedd y gwanwyn, cyflwynodd ColegauCymru geisiadau am arian ar gyfer cynlluniau Turing a Taith. Rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru yw Taith. Gwnaeth 11 o golegau geisiadau i ddysgwyr a staff deithio i 30 o wledydd gwahanol ledled y byd trwy’r cais cyfranogiad. Yn yr un modd, fe wnaethom gyflwyno consortiwm o geisiadau gan ddysgwyr trwy ein haelodau i ymweld â 15 o wledydd gwahanol trwy gynllun Turing.

Rydym eisoes wedi gweld colegau’n manteisio’n effeithiol iawn ar raglenni symudedd dysgwyr a staff yn ystod y misoedd diwethaf. Mae ColegauCymru yn falch o fod yn gweithio gyda’n partneriaid i weld Cymru’n buddsoddi mewn codi proffil ein gwlad yn rhyngwladol ac yn annog partneriaethau cilyddol i ddatblygu rhwng sefydliadau addysgol.

Gwybodaeth Bellach

Sian Holleran, International and European Project Manager
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.