Fforymau rhanbarthol llwyddiannus yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer Lles Actif mewn colegau addysg bellach

PHOTO-2022-03-29-14-56-01 (2).jpg

Cynhaliodd ColegauCymru dri Fforwm Lles Actif rhanbarthol yn ddiweddar, gan ddod â staff a dysgwyr colegau a rhanddeiliaid eraill ynghyd i drafod y camau nesaf ar gyfer hyrwyddo lles actif mewn addysg bellach.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf gwelwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwell iechyd meddwl mewn addysg bellach gan arwain at greu swyddi lles actif a mewnwelediad newydd ar lefel genedlaethol. Mae hyn yn hynod bwysig wrth inni ddod allan o'r cyfnod ansefydlog a grëwyd gan bandemig Covid-19, nod lles actif yw cefnogi gwell lles emosiynol, corfforol a chymdeithasol trwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. 

Edrychodd y fforymau’n benodol ar sut y gall colegau ehangu’r cynnig hwn, y cysylltiad rhwng gweithgaredd a llesiant ac ystyried sut y gallai lles actif edrych ymhen pum mlynedd. 

Dywedodd John Nottingham, Arweinydd Lles Actif Coleg Penybont,

"Mae digwyddiadau fel heddiw mor bwysig. Mae gweithio ac ymgysylltu â cholegau eraill, rhannu syniadau, a meddwl am ddulliau cydweithredol yn ganolog i sicrhau mwy o hygyrchedd, cynwysoldeb a chydweithio fel y gallwn ehangu darpariaeth a chyfleoedd ar gyfer ein dysgwyr yn well."

Cefnogwyd y fforymau gan ymchwil ddiweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i ben yn adroddiad Gorffennaf 2022, Cysylltu gweithgaredd, lles, a gwell iechyd meddwl ymhlith dysgwyr addysg bellach. Canfu’r adroddiad, er bod partneriaid allanol yn cefnogi’r canlyniadau a nodwyd yn Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, nad oeddent yn glir sut a ble y gallent helpu i’w cyflawni. O ganlyniad, roedd y digwyddiadau’n cynnig gofod gwerthfawr i feithrin perthnasoedd a chael mewnwelediad gan randdeiliaid, wrth i ni geisio gweithio’n fwy cydweithredol. 

Mae darpariaeth Lles Actif mewn colegau wedi’i gefnogi gan gyllid prosiect gan Chwaraeon Cymru ers 2014 a ColegauCymru yw’r partner cenedlaethol ar gyfer addysg bellach yn y maes hwn. 

Ychwanegodd Arweinydd Partneriaeth a Datblygu Chwaraeon Cymru, Annabel Ingram, 

"Mae digwyddiadau fel y rhain yn cefnogi gwaith Chwaraeon Cymru wrth ymgysylltu â’r Sector addysg bellach yng Nghymru, gan ddod â sefydliadau chwaraeon, Llywodraeth Cymru, colegau addysg bellach a dysgwyr ynghyd i ddatblygu cysylltiadau gwaith mwy strategol; ac ystyried sut y gallwn wneud ein partneriaethau presennol hyd yn oed yn gryfach."

Cafwyd trafodaethau buddiol hefyd ynghylch mwy o gynwysoldeb, ymestyn cyrhaeddiad lles actif ac ymgorffori darpariaeth; yn ogystal â chamau i wella mynediad i ac ymwybyddiaeth o lwybrau gweithgaredd a gwirfoddoli. At hynny, amlygwyd pwysigrwydd sicrhau bod lles actif yn gysylltiedig â chyfleoedd cymdeithasol ehangach a hybu sgiliau cyflogadwyedd. 

Rydym yn ddiolchgar i Coleg Cambria, Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion a Coleg Penybont am gynnal y digwyddiadau. Diolch hefyd i’n siaradwyr gwadd, staff a dysgwyr a roddodd fewnwelediad i’r ffyrdd y gallwn annog dysgwyr addysg bellach i gymryd rhan mewn gweithgaredd i gefnogi eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol. 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad Ymchwil ColegauCymru 
Cysylltu gweithgaredd, lles, a gwell iechyd meddwl ymhlith dysgwyr addysg bellach 
Gorffennaf 2022

O’r ymchwil, rydym wedi datblygu cyfres o ffeithluniau i gefnogi  dysgwyr i fod yn fwy actif. 
Ffeithluniau Lles Actif 

Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd 
Sicrhau chwarae teg Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig 
Awst 2022 

Ymchwil ColegauCymru 
Ymchwil pandemig yn canfod bod lles actif yn hynod werthfawr ar draws pob agwedd o fywyd coleg 
21 Tachwedd 2021 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 2020 - 2025 

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon 
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.