Llywodraeth Cymru: Rheoliadau o dan adran 11(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 mewn perthynas â Chynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yng Nghymru
Dyddiad Cau ar gyfer ymateb: 23 Tachwedd 2026
Mae ColegauCymru wedi ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar gynigion i ymestyn cynllun cwynion Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) i ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid yng Nghymru.
Er ei fod yn cefnogi’r egwyddor y dylai dysgwyr gael mynediad at lwybrau teg ac annibynnol i ddatrys cwynion, mae ymateb ColegauCymru yn pwysleisio’r angen i unrhyw drefniadau newydd adlewyrchu natur unigryw darpariaeth addysg bellach a phrentisiaethau.
Mae’r ymateb yn croesawu ymdrechion i gryfhau’r mesurau diogelu sydd ar gael i ddysgwyr, ond mae hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch sut y byddai’r cynllun yn gweithredu’n ymarferol ar draws sector amrywiol sy’n cefnogi pobl ifanc, oedolion, prentisiaid a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hefyd yn galw am fwy o eglurder ynghylch sut y byddai’r trefniadau arfaethedig yn rhyngweithio â’r fframweithiau cwyno, rheoleiddio ac atebolrwydd presennol.
Mae cyflwyniad ColegauCymru yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn hygyrch i bob dysgwr, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol a dysgwyr iau a allai fod angen cymorth gan rieni neu ofalwyr i fynd drwy’r broses gwyno.
Mae’r ymateb hefyd yn tynnu sylw at y pwysau ariannol sylweddol sy’n wynebu colegau ar hyn o bryd, gan nodi bod yn rhaid i unrhyw ofynion rheoleiddio ychwanegol fod yn gymesur a chael adnoddau priodol. Yn wyneb galw cynyddol gan ddysgwyr ac amgylchedd cyllido heriol, mae ColegauCymru yn dadlau y dylai’r broses weithredu osgoi creu beichiau ychwanegol heb gyllid i ddarparwyr.
Mae’r ymateb i’r ymgynghoriad wedi’i gyflwyno ac mae’n rhan o’r ymgysylltu parhaus â Llywodraeth Cymru a Medr ynghylch rheoleiddio addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru yn y dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Alex Still, Rheolwr Polisi
Alex.Still@ColegauCymru.ac.uk