Cais am Ddyfynbris: Dangos Gwerth Cymdeithasol colegau Addysg Bellach yng Nghymru

pexels-fauxels-3184465.jpg

Gydag arian grant gan Lywodraeth Cymru, mae ColegauCymru yn arwain prosiect ymchwil i sefydlu gwerth cymdeithasol addysg bellach yng Nghymru. Fel sefydliadau angori, mae colegau'n gwneud cyfraniad sylweddol i'w heconomïau a'u cymunedau lleol. Nod yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth gyfredol o'u heffaith economaidd a gwerth cymdeithasol y sector colegau. 

Yn 2017, cyhoeddodd ColegauCymru adroddiad Arddangos Gwerth Economaidd Colegau AB yng Nghymru. Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth fod colegau AB yng Nghymru yn creu manteision cadarnhaol sylweddol i’w prif grwpiau rhanddeiliaid: dysgwyr, cymdeithas, trethdalwyr, a’r gymuned fusnes lleol. Defnyddiodd yr adroddiad ddull deublyg a oedd yn cynnwys dadansoddiad buddsoddi a dadansoddiad effaith economaidd rhanbarthol, i gyfrifo’r buddion i bob un o’r grwpiau hyn. 

Mae’r dirwedd gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol wedi newid yn sylweddol ers 2017, a byddai’r set ddata newydd hon yn galluogi ColegauCymru i ddangos tystiolaeth o effaith y sector, ac i fynegi ei fanteision i ddysgwyr, i gymdeithas; a mynegi effaith gwariant staff a cholegau; effaith sgiliau gweithlu ychwanegol mewn diwydiannau y tu hwnt i AB; effaith profiad y dysgwr; a'r effaith ar y gymuned fusnes leol. 

Mae colegau yng Nghymru wedi’u gwreiddio ers tro yn eu cymunedau lleol, ac yn falch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a diwydiant. Mae gan golegau gyrhaeddiad dwfn ac eang, trwy eu campysau, eu gweithlu, gallu caffael, gyda chymunedau lleol, datblygu sgiliau, cysylltiadau diwydiant, a rolau arweinyddiaeth a gafodd effaith sylweddol yn eu hardaloedd lleol a thu hwnt. 

Gwybodaeth Bellach

Ceir rhagor o fanylion ac amserlen ar gael yma:

CAIS AM DDYFYNBRIS: Dangos Gwerth Cymdeithasol colegau Addysg Bellach yng Nghymru

Dylid cyflwyno cynigion erbyn 5.00pm ar 2 Mehefin 2023.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd y Prosiect, Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.