Gyda chyllid gan Medr, mae ColegauCymru yn chwilio am sefydliad profiadol i gynnal gwerthusiad annibynnol o raglen hyfforddi Be More Than a Bystander mewn colegau Addysg Bellach ledled Cymru.
Mae dau aelod o staff o bob coleg addysg bellach yng Nghymru eisoes wedi’u dewis i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi’r hyfforddwr ym mis Chwefror 2027. Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, bydd rhaglen Be More Than a Bystander yn cael ei threialu gyda dysgwyr addysg bellach yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2027.
Y nod yw cefnogi dysgwyr i adnabod misogyny, deall rôl pobl sy’n ymyrryd mewn modd gweithredol, ac ymateb yn ddiogel ac yn briodol i agweddau ac ymddygiadau niweidiol.
Cais am Ddyfynbris: Gwerthusiad annibynnol o raglen hyfforddi Be More Than a Bystander
Mae ColegauCymru yn dymuno penodi sefydliad i:
- sefydlu llinell sylfaen briodol ar gyfer dysgwyr cyn i’r cynllun peilot gyda dysgwyr ddechrau;
- asesu newidiadau yn ymwybyddiaeth, agweddau, hyder, bwriadau ac ymddygiadau hunangofnodedig dysgwyr;
- nodi’r hyn sy’n gweithio i wahanol grwpiau o ddysgwyr ac yng nghyd-destunau gwahanol golegau; a
- llunio argymhellion ymarferol i gryfhau’r hyfforddiant a llywio’r broses o’i gyflwyno’n ffurfiol ym mis Medi 2027.
Disgwylir i’r sefydliad llwyddiannus ddefnyddio dull cymysg cymesur, gan gyfuno dadansoddiad meintiol ag ymchwil ansoddol, megis grwpiau ffocws neu gyfweliadau â dysgwyr. O ystyried natur sensitif y pwnc, rhaid i’r gwerthusiad hefyd ddilyn dull sy’n ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar y dysgwr, gyda threfniadau diogelu, moesegol, cydsynio a diogelu data priodol ar waith.
Bydd y prosiect yn rhedeg o fis Chwefror i fis Gorffennaf 2027. Rhaid darparu’r adroddiad gwerthuso terfynol yn Gymraeg ac yn Saesneg erbyn 7 Gorffennaf 2027.
Uchafswm gwerth y contract yw £35,000 gan gynnwys TAW.
Manylion Pellach
Mae’r manylion llawn, y gofynion a’r amserlenni ar gael yn y Cais am Ddyfynbris: Gwerthusiad annibynnol o hyfforddiant Be More Than a Bystander yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru.
Rhaid cyflwyno cynigion erbyn 5.00yh ddydd Mercher 9 Rhagfyr 2026.
Am ragor o wybodaeth neu eglurhad, cysylltwch â'n Rheolwr Prosiect, Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk. Rhaid cyflwyno unrhyw gwestiynau am eglurhad erbyn 5.00yh ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026.