Ymateb, Adnewyddu, Diwygio? Beth nesaf ar gyfer addysg bellach ac addysg alwedigaethol yng Nghymru

element5-digital-jCIMcOpFHig-unsplash.jpg

Wrth i Lywodraeth Cymru nodi cam nesaf ei chynllunio ar gyfer addysg ôl-Covid, ac rydym yn rhagweld cynnydd pellach ar Bil Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), mae Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies yn myfyrio ar adolygiad tystiolaeth cyflym diweddaraf Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol, Mitigating impacts of the Covid19 pandemic on the further education sector.

 

Yn ôl adroddiad diweddar yr IPPO[1], mae addysg bellach, ac yn bwysicach fyth y dysgwyr y mae'n eu gwasanaethu, yn wynebu ystod o heriau wrth ymateb i bandemig Covid19.

Mae’r adroddiad yn gwneud darllen gafaelgar, os sobreiddiol weithiau, ond mewn gwirionedd, nid yw'r pandemig ei hun wedi achosi’r heriau tymor byr a thymor hir rhyng-gysylltiedig i addysg a lles. Yn lle, mae'r firws wedi gwaethygu problemau presennol ac wedi dod i’r amlwg rhai o'r anghydraddoldebau niferus a oedd yn bodoli yn barod.

Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae tystiolaeth glir yn yr ymchwil sylfaenol[2] gyfyngedig bod y cyfnod clo a'r newid i ddarparu dysgu ar-lein wedi effeithio ar les dysgwyr. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos myfyrwyr iau, yn ogystal â'r rhai o gefndiroedd mwy amrywiol. Fodd bynnag, mae iechyd meddwl gwael ymhlith myfyrwyr addysg uwch a dysgwyr addysg bellach wedi bod yn bryder cynyddol ers cryn amser[3] a rhagwelwyd mewn sawl ffordd yr effaith o ran tarfu ar ddysgu fel yr opsiwn lleiaf gwaethaf.

Yn yr un modd, mae'r garfan amrywiol o ddysgwyr sy'n astudio math o addysg bellach[4] a’r effaith o dlodi ac amddifadedd cymdeithasol ar ganlyniadau dysgu yn 16 oed wedi bod yn bryder mawr i lunwyr polisi ledled y DU. Roedd hyn yn wir ymhell cyn i Covid19 ymddangos[5].

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i effaith Covid19 yn ganmoladwy ac yn cael ei nodweddu o fewn addysg bellach gan ymddiriedaeth, rhannu baich a chydweithio. Gwnaed buddsoddiad sylweddol i geisio lliniaru effeithiau anochel. Fodd bynnag, wrth ymateb i gymaint o heriau mewn ffordd gadarnhaol, mae’n wir fod dau ffactor ystyfnig yn ein cadw yn y cyfnod ymateb o hyd.

  1. Yn gyntaf, gyda chymaint o bobl ifanc wedi'u dadleoli nid yn unig o gyflogaeth uniongyrchol ond hefyd o brofiad gwaith, bydd angen i ni barhau i ymateb i'r heriau y mae dysgwyr galwedigaethol yn eu hwynebu wrth gwblhau eu rhaglenni technegol. Mae canlyniadau mewn cwblhad cyrsiau lefelau is technegol ar gyfer blynyddoedd Covid19 yn wahanol iawn i'r rhai a welwyd ym maes addysg gyffredinol.
  2. Yn ail, cyn i ni weithio i adnewyddu, heb sôn am ddiwygio, mae angen gwell dealltwriaeth arnom o sut y gwnaeth pobl ifanc drosglwyddo o'r ysgol i bob math o addysg ôl-16. Mae adroddiadau storïol cynnar yn peri pryder ac yn paentio llun o gystadleuaeth ddi-fudd i ddysgwyr a darfu ar lwybrau trosglwyddo arferol.

Gosodwyd yr agenda Adnewyddu gan Covid19 a chan yr heriau parhaus sy'n gynhenid yn ein systemau addysg felly.

Wrth i ni geisio Adnewyddu, er bod gwytnwch y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cyferbyniad llwyr a’r hyn a welir yn Lloegr, ni ellir ei gymryd yn ganiataol. Mae'r model busnes wedi'i adeiladu ar ystod o ffrydiau incwm sy'n ychwanegol at y dyraniad grant uniongyrchol. Mae rhai ffrydiau cyllid yn edrych yn fwy agored i niwed ar ôl pandemig ond diolch byth ddim mor agored i niwed nac yn ddibynnol ar incwm tramor â'r rhai mewn addysg uwch. Bydd sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cyllid wedi'i ddyrannu a refeniw masnachol yn anodd am gryn amser. Bydd rôl o fewn addysg bellach ar gyfer cyllido dysgwyr ar sail ddyled ond gallai hyn fod yn rhwystr i lawer.

Mae'r dyraniad cyllid addysg bellach yn dibynnu ar dwf demograffig a rhaid iddo bellach gynnwys elfen o gyllid i fynd i'r afael â heriau hanesyddol fel amddifadedd a thlodi ond hefyd y galw am ffyrdd o lafur newydd. Bydd angen iddo fynd i’r afael ag effaith aflonyddu ar addysg ‘i fyny’r lon’ yn ogystal ag ‘i lawr y lon’. Rhaid i ddyraniad cyllid gyfrif am realiti profiadau bywyd a newidiadau mewn cyflogaeth ac nid y syniadau delfrydol o ddilyniant llinellol trwy gamau addysg, cyflogaeth a dyrchafiad ac ymlaen i ymddeol.

Yn olaf, ac mae rhaid cyfaddef ei bod hi’n hen bryd diwygio addysg ôl-16, hanfod yw mynd i'r afael â thri maes allweddol i wneud cynnydd. Y rhain yw:

  • diwygio achrediad technegol uwch,
  • datblygu un dull o gynllunio darpariaeth 16-19, a
  • darparu cynnig dysgu gydol oes amrywiol.

Yn bwysig, rhaid i ddiwygio fod yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o’r nifer o ddibenion addysg drydyddol ac nid ar un math o ddarpariaeth yn unig. Rhaid yw edrych ar yr hyn sydd ei angen, beth sy'n gweithio a pham.

Bydd diwygio yn anghyfforddus. Bydd yn heriol ac yn ddi-os bydd yn newid y berthynas rhwng y gwahanol rannau o'r system drydyddol bresennol a'r sefydliadau sydd ynddo. Bydd angen math newydd o oruchwylio, llywodraethu a sicrhau ansawdd ond hefyd ar ran sefydliadau, awydd i addasu, yn yr un modd ag y mae ein harferion gwaith, ein ffordd o fyw a dewisiadau eraill wedi addasu i'r pandemig.

Fel y nodwyd yn adroddiad yr IPPO, mae Covid19 yn ‘broblem ddrygionus’ ac fe fydd yn parhau i fod felly. Efallai’n wir y gallai brofi fel catalydd i addysg bellach, fel rhan o system drydyddol o’r newydd, fynd i’r afael o’r diwedd â’r anghydraddoldebau a’r heriau a oedd yn bodoli cyn mis Mawrth 2020. Os yw Cymru am ffynnu fel cymdeithas ac fel un sy’n wirioneddol cefnogi ei holl ddinasyddion, mae angen inni i fynd i'r afael â'r heriau hyn, y rhai sydd wedi bod o gwmpas ers amser mor hir fel eu bod yn cael eu dosbarthu fel rhai endemig ynddynt eu hunain.

 

[1] IPPO (2021) Mitigating impacts of the COVID-19 pandemic on the further education sector https://eppi.ioe.ac.uk/cms/Portals/0/Lot%204%20-%20FE%20-%20090921_LO.pdf?ver=2021-09-09-114634-593 

[2] Mylona and Jenkins (Welsh Government) (2021) Survey of effect of Covid-19 on learners (2020) - Results summary https://gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2021-03/survey-of-effect-of-covid-19-on-learners-2020-results-summary.pdf

[3] Warwick et al (2008) Supporting mental health and emotional well‐being among younger students in further education, Journal of Further and Higher Education Journal of Further and Higher Education  

Volume 32, 2008 - Issue 1

[4] Ron Thompson (2009) Social class and participation in further education: evidence from the Youth Cohort Study of England and Wales, British Journal of Sociology of Education, 30:1, 29-42

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.