Mae ColegauCymru a'r sector addysg bellach yn drist iawn o glywed am farwolaeth yr AS Hefin David o Blaid Lafur Cymru.
Roedd Hefin yn eiriolwr gwych dros ei etholaeth, ond hefyd yn hyrwyddwr dros effaith drawsnewidiol addysg a hyfforddiant ôl-16. Roedd ei ymroddiad a'i gefnogaeth i'r sector colegau yn amlwg i bawb a weithiodd gydag ef. Mae ei adroddiad Pontio i Fyd Gwaith yn dyst i'w ymrwymiad i greu cyfleoedd gwell i bobl ifanc, ac roedd ei angerdd dros fynediad at ddysgu i'r rhai ag anghenion ychwanegol yn disgleirio yn ei waith.
Yn ogystal â'i waith yn y Senedd, roedd gan Hefin berthynas agos â'i goleg lleol - Coleg y Cymoedd, lle byddai'n cwrdd â dysgwyr a staff i ddyfnhau ei ddealltwriaeth o effaith y sector addysg bellach ar ddysgwyr a chymunedau. Bydd colled ar ei ôl, ac mae ein meddyliau gyda'i bartner, Vikki Howells AS, a'i deulu, ffrindiau a chydweithwyr yn yr amser anodd hwn.