Diogelu'r Dyfodol: ColegauCymru yn galw am gefnogaeth frys i golegau Cymru

money jar.jpg

Wrth i Gymru barhau i weld niferoedd record o bobl ifanc yn dewis addysg bellach, mae ColegauCymru wedi ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, Buffy Williams AS, i dynnu sylw at y pwysau ariannol brys sy'n wynebu colegau.

Mae'r llythyr yn nodi'r heriau a ddaw yn sgil cyfranogiad cynyddol, yr angen am gefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr, ac yn galw am gyllid brys ac adolygiad o gyllideb Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall colegau barhau i gyflawni ar gyfer dyfodol Cymru.

Gallwch ddarllen y llythyr yma: ColegauCymru yn galw am gefnogaeth frys i golegau Cymru

Gwybodaeth Bellach

Senedd Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.