Pwyllgor y Senedd yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi lles actif mewn ardaloedd difreintiedig

12.06.15 MH College Sports Cardiff 42.JPG

Roedd ColegauCymru yn falch o gyfrannu at ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd i Gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig.

Roedd yn galonogol gweld argymhellion yn cael eu gwneud mewn perthynas â'n hawgrym ar gyfer archwiliad Cymru gyfan o'r cyfleusterau sydd ar gael ar hyn o bryd. Disgwyliwn i gampysau colegau addysg bellach fod yn rhan allweddol o unrhyw archwiliad gan fod gennym gyfraniad gwerthfawr a pharhaus i’w wneud drwy ein rhwydwaith o gampysau a chyfleusterau chwaraeon lleol.

Awgrymodd ColegauCymru hefyd yr angen i gynyddu a gwella data ac ymchwil a chalonogol oedd gweld argymhelliad i’r perwyl hwnnw, gyda’r adroddiad yn cydnabod y problemau sylweddol mewn data ar gyfer lefelau cyfranogiad cyfredol mewn chwaraeon a sut mae hyn yn cael ei fesur.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn cydnabod bod rhyw yn parhau i fod yn ffactor arwyddocaol o ran cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Mae’r rhesymau am hyn yn cynnwys cymhelliant merched a’u mwynhad o chwaraeon sy’n lleihau trwy gydol llencyndod ac yn aml mae agweddau negyddol tuag at chwaraeon yn cael eu ffurfio.

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru,

“Mae colegau addysg bellach yn gwneud cyfraniad enfawr at les actif miloedd o ddysgwyr, yn enwedig mewn grwpiau anodd eu cyrraedd ac mewn ardaloedd difreintiedig. Gwyddom fod llawer o gyfleusterau’r coleg eisoes ar gael i’w defnyddio gan gymunedau lleol a bod y cyfle hwn yn cael ei werthfawrogi. Rydym yn falch o weld y Pwyllgor yn ystyried nifer o’n hargymhellion ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol a fydd yn effeithio ar feysydd sydd â llawer i’w ennill o gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn actif.”

Mae ColegauCymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi lles actif mewn ardaloedd a grwpiau difreintiedig fel y manylir yng nghanfyddiadau dwy set o ymchwil a gomisiynwyd gennym yn 2021. Edrychodd yr ymchwil i effeithiau Covid19 ar chwaraeon a lles mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Nododd yr ymchwil hwn fod angen ailgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig merched, a gweithlu’r dyfodol ym myd chwaraeon, oherwydd y cyfleoedd a gollwyd i hyfforddi a gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Arweiniodd yr ymchwil at ColegauCymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu â dysgwyr llai actif a’r grwpiau hynny yr effeithir arnynt fwyaf gan y pandemig.

Gwybodaeth Bellach

Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru
Sicrhau chwarae teg - Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig
Awst 2022

Ymchwil ColegauCymru
Ymchwil pandemig yn canfod bod lles actif yn hynod werthfawr ar draws pob agwedd o fywyd coleg

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.