Cydweithwyr addysg bellach o Sbaen yn ymweld â Chymru i helpu i feithrin perthnasoedd cryf i gefnogi symudedd dysgwyr a staff

STEAM.jpg

Roedd ColegauCymru Rhyngwladol yn falch o hwyluso ymweliad astudio diweddar gan ddefnyddio cyllid Erasmus+ i adeiladu partneriaethau ar gyfer symudedd dysgwyr a staff.

Yn ystod yr ymweliad ymwelodd cydweithwyr o goleg addysg bellach Sbaen, IES Abastos, sy'n arbenigo mewn TG, dylunio gwe a chymwysterau busnes, â dau goleg yn ne Cymru ddiwedd mis Mawrth.

Mewn ymweliad deuddydd, ymwelodd Vicent Pavel Tortosa Lorenzo, Joaquin Martin Coné a Rafael Perez Dasí â champws Dumballs Road Coleg Caerdydd a’r Fro ac Academi STEAM, adeilad newydd cyffrous ar gampws Pencoed Penybont, a ddyluniwyd i gynnwys cyfleusterau addysgu, dysgu a chymorth ar gyfer gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg.

Tra yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, cafodd y triawd gipolwg ar sawl maes gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer Sgiliau Byw’n Annibynnol, Iechyd a Lles, a Gwasanaethau Myfyrwyr.

Rhoddodd yr ymweliad â Phenybont gipolwg ar y cwricwlwm TG a llythrennedd digidol yng Nghymru, y cyfle i arsylwi gwers mewn seiber ddiogelwch a chyfle i drafod cyflogaeth ac ymgysylltu â chyflogwyr.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran,

“Mae adeiladu partneriaethau cryf ar gyfer symudedd yn rhan hanfodol o'r broses gyfnewid. Mae’n amhrisiadwy i gydweithwyr o wahanol wledydd ddod at ei gilydd i gyfnewid gwybodaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael y budd mwyaf o’n symudedd dysgwyr a staff.”

Cafodd ein gwesteion eu calonogi gan gyfeillgarwch pawb y gwnaethant gwrdd â nhw tra ar eu hymweliad byr â Chymru. Roedd cyfle hefyd i fwynhau peth o’n diwylliant Cymreig gwych a’n cefn gwlad hardd gydag ymweliad â Thyddewi a thaith gerdded i fyny copa uchaf De Cymru, Pen y Fan.

Gwybodaeth Bellach

Sian Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru

Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.