Llwyddiant i golegau addysg bellach Cymru yn EuroSkills Herning 2025

pexels-mikhail-nilov-9242844.jpg

Mae colegau addysg bellach Cymru yn dathlu ar ôl perfformiadau rhagorol gan eu dysgwyr yn EuroSkills Herning 2025. Daeth y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Nenmarc o 9 - 13 Medi, â gweithwyr proffesiynol ifanc mwyaf talentog Ewrop ynghyd ar draws ystod eang o sgiliau technegol a galwedigaethol. 

Roedd dysgwyr coleg Tîm Cymru ymhlith y 7 enillydd medal yn Nhîm y DU - dysgwr Grŵp Llandrillo Menai, Yuliia Batrak a dysgwr Coleg Cambria, Tomas Ankers. 

Derbyniodd Yuliia a Tomas Fedalau am Ragoriaeth, sy'n dangos eu bod wedi cyrraedd safon ryngwladol yn eu meysydd priodol - Gwasanaethau Bwyty a Melino CNC yn y drefn honno. 

Dechreuodd Yuliia, ffoadur a ffodd o Wcráin yn 2022 gyda'i mam a'i chwaer ac sydd wedi ymgartrefu ym Mae Colwyn ers hynny, ei hyfforddiant mewn gwasanaethau bwytai yng Ngholeg Llandrillo. 

Roedd yna hefyd ymgeiswyr terfynol ar gyfer Grŵp Colegau NPTC, Coleg Penybont a Choleg Sir Benfro. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Llongyfarchiadau i Yuliia a Tomas. Rydym yn hynod falch o’u cyflawniadau a chyflawniadau eu cyd-ddysgwyr coleg yng Nghymru sydd wedi arddangos eu sgiliau ar lwyfan Ewrop. Mae eu llwyddiant yn tynnu sylw nid yn unig at eu talent a’u penderfyniad ond hefyd at ymroddiad staff y coleg sy’n eu meithrin ac yn eu hysbrydoli bob dydd. Mae Cymru’n gyson yn rhagori ar ei phwysau o ran cyflawniad sgiliau, ac mae’n wych gweld ein dysgwyr ifanc yn cyrraedd safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol cyn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU ym mis Tachwedd. Mae cystadlaethau fel EuroSkills yn chwarae rhan hanfodol wrth godi dyheadau a dangos rhagoriaeth o fewn sector addysg bellach Cymru.” 

Daw’r llwyddiant rhyngwladol hwn wrth i Gymru edrych ymlaen at gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2025, lle bydd colegau, prentisiaid a darparwyr hyfforddiant o bob cenedl yn ymgynnull i gystadlu a dathlu rhagoriaeth alwedigaethol. 

Gwybodaeth Bellach 

EuroSkills Herning 2025 Y digwyddiad rhagoriaeth addysg a sgiliau galwedigaethol mwyaf yn Ewrop, yn cynnwys dros 600 o weithwyr proffesiynol ifanc o 32 o wledydd. 

Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills UK 2025 
25 - 28 Tachwedd 2025 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.