Llwyddiant cais am gyllid rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol

pexels-natasa-dav-2885919.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o fod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am gyllid ar gyfer rhaglen gyfnewid ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru, Taith. 

Gwnaed y cais ym mis Mai 2022 ar ran y sector addysg bellach yng Nghymru, gyda gwerth prosiect o bron i £540,000. Rydym wrth ein bodd y bydd y rhaglen yn darparu cyfleoedd i 340 o staff o bob rhan o Gymru adeiladu a chryfhau partneriaethau ar draws y byd. 

Byddwn hefyd yn treialu rhai symudiadau cyfunol ar gyfer dysgwyr o Goleg Catholig Dewi Sant. 

Cynlluniwyd Taith i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ar draws y byd. Mae'r rhaglen yn creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd newydd o fyw, a dod â gwersi yn ôl i'w rhannu â phobl gartref. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, 

“Ar ôl gweld colegau eisoes yn manteisio ar raglenni symudedd dysgwyr a staff eraill yn ystod y misoedd diwethaf, yn effeithiol iawn, rydym yn falch o fod wedi derbyn y cyllid hwn gan Taith. Mae’n galonogol hefyd bod Cymru, trwy Taith, yn buddsoddi mewn codi ei phroffil yn rhyngwladol ac yn annog partneriaethau cyfatebol i ddatblygu rhwng sefydliadau addysgol.” 

Gwybodaeth Bellach 

Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.