Llwyddiant yn Her Codi Pwysau ColegauCymru

Mae'n bleser gan ColegauCymru gyhoeddi enillwyr yr Her Codi Pŵer AB gyntaf, cystadleuaeth codi pwysau newydd ar gyfer dysgwyr addysg bellach a gynhaliwyd yn gynharach yn nhymor yr haf. 
  
Dyluniwyd y gystadleuaeth i roi cyfle i ddysgwyr academi chwaraeon a'r rheini sydd eisoes yn codi'n gystadleuol gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn lleoliadau addysgol diogel. 
  
Dywedodd Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru Rob Baynham,

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb cadarnhaol rydyn ni wedi’i gael i’r her hon, ac i allu ailgyflwyno cystadleuaeth i leoliadau coleg - hwb i’w groesawu yn nhymor yr haf wrth  gyfyngiadau’r Pandemig leihau. 
  
Mae dysgwyr a staff wedi gwynebu 18 mis heriol ac mae ColegauCymru yn awyddus i'w cefnogi i ddychwelyd yn ddiogel i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau corfforol. Gyda hynny mewn golwg, roedd y sialens hon wedi'i hamseru'n berffaith."

Tîm Buddugol 
Gyda chyfanswm o 1044 o bwyntiau Sinclair, Emily Mitchell, Tayla Hek, Seren Mitchell a Lara Edwards o Goleg Sir Gar oedd tîm buddugol y gystadleuaeth. 
  
Enillwyr y Cystadlaethau Unigol 
Enillodd Christian Brooke o Goleg Caerdydd a’r Fro’r Her Dynion Unigol gyda 387 pwynt (Uwchben 120kg/Deadlift 250kg), tra Emily Mitchell o Goleg Sir Gar oedd yn fuddugol yn yr Her Menywod Unigol gyda 300 pwynt (Uwchben 65kg/Deadlift 115kg). 
  
Llongyfarchiadau hefyd i'r codwyr canlynol: 
 
Merched 

  1. Emily Mitchell, Coleg Sir Gar 
  2. Tayla Hek, Coleg Sir Gar 
  3. Seren Mitchell, Coleg Sir Gar 
  4. Lara Edwards, Coleg Sir Gar 
  5. Vicky Powney, Grŵp Colegau NPTC 
  6. Chloe Evans, Grŵp Colegau NPTC 

Dynion 

  1. Christian Brooke, Coleg Caerdydd a’r Fro 
  2. Harry Williams, Coleg Caerdydd a’r Fro 
  3. Dylan Kelly, Grŵp Colegau NPTC 
  4. Nye Morgan, Grŵp Colegau NPTC 
  5. Connor Howard, Grŵp Colegau NPTC 
  6. Ciaran Jones, Grŵp Colegau NPTC  

Bydd pob codwr yn derbyn pecyn dillad gan SBD Apparel a chrys-t y sialens, tra bydd y tîm buddugol hefyd yn derbyn bar gan Pullum Sports. 
  
Ychwanegodd Simon Roach o Codi Pwysau Cymru,

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi'r gystadleuaeth hon a gweld ymgysylltiad mor frwd. Mae Codi Pwysau Cymru yn hyrwyddo iechyd, lles a ffitrwydd trwy hyfforddiant cryfder, sy'n cyd-fynd yn agos â Strategaeth Lles Actif ColegauCymru."

Diolch 
Mae ColegauCymru yn diolch i bawb a gymerodd ran yn Her Codi Pŵer AB ac a gefnogodd y fenter newydd gyffrous hon. Diolch yn arbennig i Simon Roach o Codi Pwysau Cymru a noddwyr y gystadleuaeth SBD Apparel a Pullum Sports am eu cefnogaeth barhaus.


Gwybodaeth Bellach

Rob Baynham 
Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru 
Robert.Baynham@colegaucymru.ac.uk
  
Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 2020 - 2025

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.