Mae ColegauCymru yn falch o gadarnhau cam olaf ein gweithio ar y cyd yn rhyngwladol i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol a cham-drin merched rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr mewn addysg bellach. Fel rhan o brosiect ColegauCymru a ariennir gan Taith, bydd aelodau'r Gymuned Ymarfer o Ganada yn ymweld â Chymru am wythnos o hyd o 19 i 25 Hydref 2025. Wrth i'r prosiect ddod i ben, mae'r ymweliad hwn yn gyfle i'r Gymuned Ymarfer drawsgenedlaethol rannu eu harbenigedd, eu dysgu a chanlyniadau'r prosiect gyda chynulleidfa ehangach ledled Cymru.
Manylion yr Ymweliad: Ymgysylltu â Cholegau Cymru
Yn ystod eu harhosiad wythnos o hyd, bydd y ddirprwyaeth o Ganada yn ymweld â thri o brif golegau addysg bellach Cymru: Coleg Cambria, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Choleg y Cymoedd, sydd i gyd yn rhan o'r Gymuned Ymarfer drawsgenedlaethol. Bydd yr ymweliadau hyn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar fentrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y maes gwaith hwn, yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu â staff a dysgwyr a hefyd i fwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
Cyfranogiad yn y Gynhadledd Flynyddol
Bydd aelodau'r Gymuned Ymarfer o Ganada a Chymru yn mynychu Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru ar 23 Hydref 2025. Yn ogystal â chymryd rhan yn sesiynau'r brif gynhadledd, byddant yn hwyluso gweithdy i ledaenu canlyniadau'r prosiect a chodi ymwybyddiaeth o'r camau ymarferol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â cham-drin menywod a merched mewn colegau. Yn ogystal, bydd y Canadiaid yn ymuno â'r cinio cyn y gynhadledd, gan ddarparu cyfleoedd rhwydweithio pellach a'r cyfle i feithrin perthnasoedd parhaol â'u cymheiriaid yng Nghymru.
Nododd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran,
“Drwy gydweithio ar y prosiect hwn, rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â materion a godwyd yn adroddiad Estyn yn 2023 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru ac yn gweithio tuag at greu amgylcheddau coleg lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu, ac yn cael eu grymuso.”
Yn yr un modd, ychwanegodd Keith Campbell, Coleg Assiniboine, Manitoba, Canada,
“Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi i rannu arbenigedd a phrofiadau o fewn a thu hwnt i Ganada. Rydym yn edrych ymlaen at ymweld â Chymru i adeiladu ar y partneriaethau hyn ac i fynd â syniadau newydd yn ôl a fydd yn helpu i gryfhau ein gwaith gartref.”
Mae ColegauCymru ac aelodau’r Gymuned Ymarfer yng Nghymru a Chanada yn edrych ymlaen at gydweithio i rannu effaith gweithgareddau’r prosiect ac i osod y sylfaen ar gyfer cydweithio rhyngwladol yn y dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Mynd i’r Afael â Cham-drin Menywod a Hyrwyddo Perthnasoedd Parchus yn y sector Addysg Bellach
Taith yw Rhaglen Gyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Colleges and Insitutes Canada yw llais cenedlaethol a rhyngwladol rhwydwaith addysg ôl-uwchradd mwyaf Canada.
Sian Holleran, Rheolwr Prosiect
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Vicky Thomas, Swyddog Prosiect
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk