Cymrodoriaeth Addysgu Technegol yn Cydnabod Arloesedd yng Ngrŵp Colegau NPTC

pexels-maltelu-2244746.jpg

Rydym wrth ein bodd yn dathlu llwyddiant Grŵp Colegau NPTC wrth iddynt ddisgleirio wrth hyrwyddo addysg dechnegol. Mae William Davies, Darlithydd Cerbydau Modur yng Ngholeg Aberhonddu, wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Technegol fawreddog i gydnabod ei waith arloesol mewn modelu 3D a'i botensial i drawsnewid addysg dechnegol. 

Mae'r Rhaglen Cymrodoriaeth Addysgu Technegol, a ariennir ar y cyd gan y Royal Commission for the Exhibition of 1851 a'r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF), yn cefnogi addysgwyr i ddatblygu a rhannu prosiectau arloesol. Eleni, mae tri o'r saith Cymrodoriaeth wedi'u dyfarnu i addysgwyr Cymru, gan amlygu cryfder addysgu technegol yng Nghymru. 

Ymhlith y derbynwyr 2024/25 mae William Davies o Grŵp Colegau NPTC, y bydd ei Gymrodoriaeth yn canolbwyntio ar greu a gweithredu modelau a phrofiadau 3D o fewn y sector galwedigaethol. 

Mae Ysgol Beirianneg Grŵp Colegau NPTC ar flaen y gad o ran datblygu a chyflwyno hyfforddiant cynnal a chadw cerbydau trydanol/hybrid cyfoes ac arloesol i ddarparwyr yn lleol, ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae William wedi bod yn allweddol yn natblygiad a darpariaeth y cyrsiau hyn. 

Mae prosiect William hefyd yn archwilio sut y gellir integreiddio modelu 3D i addysg dechnegol, gan wella profiadau dysgu a datblygu sgiliau. Trwy fenter Cymru Fyd-eang, mae wedi ymweld â'r Almaen ac India i gymharu dulliau hyfforddi technegol, gan ganfod bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi yn y maes hwn. 

Fel rhan o'r Gymrodoriaeth, rhannodd William ei arbenigedd yn Nathliad Gwobrau Cymrodoriaeth Addysgu Technegol ddydd Gwener 28 Mawrth yn y Gymdeithas Frenhinol, Llundain, gan ddangos sut y gall ei waith gefnogi addysg dechnegol ledled y DU.

Sylwodd William, 

“Mae cael y Gymrodoriaeth Addysgu Technegol yn gyfle anhygoel i ddangos sut y gall modelu 3D chwyldroi addysg dechnegol. Trwy fy ymweliadau â'r Almaen ac India, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol sut mae Cymru'n arwain y ffordd mewn arloesi, ac rwy'n gyffrous i rannu fy nghanfyddiadau i helpu i wella dulliau addysgu ledled y DU.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae addysgwyr Cymru yn parhau i wthio ffiniau addysg dechnegol, ac rydym wrth ein bodd yn gweld William yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad rhagorol. Mae ei waith mewn modelu 3D a hyfforddiant cerbydau trydan yn tynnu sylw at yr arloesedd sy'n digwydd mewn addysg bellach ledled Cymru, gan atgyfnerthu ein safle fel arweinwyr mewn addysgu technegol.” 

Mae ColegauCymru yn falch o weld addysgwyr Cymru yn arwain mewn addysgu technegol ac yn edrych ymlaen at effaith y gwaith arloesol hwn ar ddysgwyr a cholegau ledled Cymru a thu hwnt. 

Gwybodaeth Bellach 

Mae'r The Technical Teaching Fellowship Programme yn cydnabod, yn gwobrwyo, yn hyrwyddo ac yn cynyddu rhagoriaeth arfer mewn partneriaethau addysg ddiwydiannol a thechnegol. 

Cymru Fyd-eang 
Mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn darparu dull strategol, cydweithredol o addysg uwch ac addysg bellach rhyngwladol yng Nghymru. 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.