Cynllun Turing yn sicrhau parhad i waith gwerthfawr a chyfleoedd astudio dramor dysgwyr addysg bellach

Students sitting on a college wall.jpg

Y mis hwn mae ColegauCymru wedi cyflwyno cais i Gynllun Turing ar ran ein haelodau. Mae’r Cynllun yn rhaglen fyd-eang y DU i astudio a gweithio dramor sy’n darparu cyllid i ddysgwyr coleg addysg bellach i dreulio amser yn byw, astudio neu hyfforddi mewn lleoliadau ledled y byd ac mae'n disodli  Rhaglen Erasmus+ Llywodraeth y DU. 

 

Dywedodd Sian Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru,

“Rydym yn falch bod Cynllun Turing wedi’i gyflwyno a’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr addysg bellach hyfforddi ac astudio ledled y byd. Rydym wedi hyrwyddo gwerth y rhaglenni symudedd hyn ar gyfer dysgwyr galwedigaethol ers amser ac rydym yn falch o weld y Cynllun yn ehangu cyfranogiad i ddysgwyr Safon Uwch a'r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.”

Gwybodaeth Allweddol 

  • Mae Prosiect ColegauCymru werth £1.4m ac mae'n gweithio gyda 28 o bartneriaid ar draws 19 gwlad 
  • Mae'r Prosiect wedi gofyn am arian i hyd at 528 o gyfranogwyr gymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd tramor 
  • Mae pob un o'n haelodau yn rhan o'r Prosiect 

Mae ColegauCymru yn falch o fod wedi cyflwyno rhai cynigion cyffrous gan gynnwys: 

  • cyfle i ddysgwyr Chwaraeon a Gofal Plant ymweld â Phatagonia, i gefnogi addysg gyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd; 
  • ymweliadau UDA â lleoliadau fel Cincinnati, Kentucky ac Ohio, gan gynnig cyfle i ddysgwyr sgiliau byw'n annibynnol (ILS) sydd â dysgu ychwanegol gael profiad o ystod o amgylcheddau a diwydiannau a'r amrywiaeth o rolau sydd ar gael ar gyfer eu dilyniant gyrfa; a
  • dysgwyr academi rygbi i gael cyfle i brofi amgylchedd rygbi proffesiynol yn Seland Newydd.

Derbynnir cadarnhad am lwyddiant y cais ym mis Gorffennaf 2021, a bwriedir cynnal  gweithgareddau rhwng Medi 2021 ac Awst 2022.

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru Cymru,

“Mae'r 2 flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol i raglenni cyfnewid rhyngwladol, oherwydd effaith Brexit a phandemig Covid19, a deimlwyd yn ddifrifol ar draws ein colegau. Wrth i gyfyngiadau barhau i gael eu llacio, rydym yn aros am eglurder ar gynlluniau ar gyfer teithio dramor, fel y gallwn ddechrau cynllunio'n gadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyfleoedd cyffrous hyn i gyfoethogi a gwella profiadau dysgu yn rhan allweddol o'r profiad addysg bellach.”

Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd symudedd o dan gynllun Llywodraeth y DU yn ategu'r rhai sy'n cael eu datblygu o dan raglen Llywodraeth Cymru a bydd yr arian sy'n weddill gan y Comisiwn Ewropeaidd hefyd yn cefnogi cam olaf y cynllun Erasmus+ sy'n cael ei redeg gan ColegauCymru.

Gwybodaeth Bellach 

Gwefan Cynllun Turing

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.