Sesiwn Gwybodaeth Cynllun Turing

pexels-jopwell-2422293.jpg

Rhaglen fyd-eang y DU yn cynnig cyfle i ddysgwyr coleg addysg bellach astudio a gweithio dramor yw Cynllun Turing. Mae'r cynllun yn darparu cyllid alluogi dysgwyr i dreulio amser yn byw, astudio neu hyfforddi ledled y byd. 
 
Rydym yn falch o'ch gwahodd i'r Sesiwn Wybodaeth anffurfiol hon i ddysgu mwy am y Cynllun. Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn rhannu manylion am: 

  • cyfleoedd newydd dramor i fyfyrwyr Safon Uwch, dysgwyr galwedigaethol a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol 
  • sut i gymryd rhan yng nghais Consortiwm 2021 ColegauCymru 

Bydd Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran, yn hwyluso'r digwyddiad. Yn ymuno â hi bydd Michael Trueman o Asiantaeth Genedlaethol y DU yn darparu diweddariad o'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar y Cynllun. 

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau. 

ARCHEBWCH LE

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.