Llwyddiant chwaraeon gorau erioed i Ddysgwyr colegau yng Ngymru ym mhencampwriaethau cenedlaethol y DU

Cafodd gobeithion colegau yng Nghymru o berfformio'n dda mewn detholiad o chwaraeon ym Mhencampwriaeth Genedlaethol AoC eu gwobrwyo'r penwythnos diwethaf, wrth iddynt orffen yn yr 8fed safle.

Gan ddathlu un o'r perfformiadau gorau erioed yn y bencampwriaeth dros dridiau rhwng 26-28 Ebrill, bu tîm cryf o Gymru gyda bron i 200 o fyfyrwyr yn cystadlu mewn 14 o wahanol chwaraeon.

Ymunodd dysgwyr colegau Cymru ag 11 rhanbarth ar draws tair gwlad i frwydro mewn amrywiaeth o chwaraeon, o rygbi, i hoci i golff a thenis bwrdd. Fe wnaeth y tîm Cymreig dynnu at ei gilydd yn yr holl ardaloedd gan ddangos ysbryd tîm a chystadlaethau gwych.

Wrth gydnabod ymdrech yr holl ddysgwyr sy'n cystadlu, dywedodd Robert Baynham, Cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru a fuodd yno yn cefnogi’r colegau, “am benwythnos gwych o gystadlaethau, gyda Chymru'n ennill medalau ac yn perfformio'n well nag erioed o'r blaen”.

Roedd y medalau ag enillwyd yn cynnwys:

  • Rygbi Merched - Aur
  • Hoci Merched - Arian
  • Digwyddiad tîm Traws Gwlad - Efydd Merched
  • Traws Gwlad Merched - Efydd - Unigolyn
  • Tenis Bwrdd Dynion - Arian
  • Roedd rhai 4ydd lle amlwg hefyd yn cynnwys phêl-droed i ferched a pêl-droed i bobl sy’n dysgu

Gellir gweld y canlyniadau llawn ar gyfer y pencampwriaethau ar y ddolen hon

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru “mae’n wych cael y cyfle i'n dysgwyr o Gymru gystadlu yn erbyn y goreuon o'r DU ac i berfformio mor dda, dylai pawb fod yn falch iawn. Diolch yn fawr iawn i bawb o Gymru, y dysgwyr, y staff, y cyrff cefnogi a llywodraethu a theuluoedd y cystadleuwyr i gyd.”

Cefnogwyd y tîm gan nawdd o’r Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Chwaraeon ColegauCymru. Darparodd staff y Coleg rywfaint o hyfforddiant hedfan gwych gyda nifer o gyn chwaraewyr a rheolwyr rhyngwladol yn cymryd rhan yn y garfan. Roedd cefnogaeth gan gyrff llywodraethol gan gynnwys Athletau Ysgolion Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yn fanteisiol hefyd wrth nodi athletwyr ar gyfer tîm Cymru.

Mae llwyddiant y tîm yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r cyfleoedd y mae colegau AB yn eu darparu mewn chwaraeon. Mae’n rhoi mynediad i ddysgwyr i chwaraeon cystadleuol o'r radd flaenaf ynghyd â chyfleoedd i gynrychioli eu colegau a'u gwlad. Hoffai ColegauCymru a Chwaraeon ColegauCymru ddiolch i'r holl bobl a fu'n rhan o'r llwyddiant hwn dros y penwythnos ac edrychwn ymlaen at bencampwriaethau llwyddiannus eraill y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y digwyddiad, bu cyn dysgwr Grŵp Llandrillo Menai a newyddiadurwr uchelgeisiol Patrick Hinchcliffe yn gwirfoddoli ac yn adrodd ar y gweithgareddau dros y tridiau, gan gyfweld cystadleuwyr ayb. Darllenwch fwy yma am yr hyn a feddyliodd Patrick o'r penwythnos.

Hefyd, mae adroddiad llawn yma ar y gystadleuaeth Draws Gwlad o wefan Athletau Cymru.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.