Eleni, mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn canolbwyntio ar Dlodi. Gyda’r argyfwng tlodi plant presennol yng Nghymru ac o gwmpas y byd, mae’r Urdd a phobl ifanc Cymru wedi penderfynu canolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.
Mae ColegauCymru yn sefyll mewn undod â phobl ifanc Cymru wrth gyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni, sy’n taflu goleuni pwerus ar y mater hwn ac yn galw am newid.
Rydym wrth ein bodd bod neges eleni wedi’i chreu gan aelodau’r Urdd a dysgwyr o Goleg y Cymoedd dan arweiniad Achub y Plant.
Gydag un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, mae’n amlwg bod angen newid. Mae tlodi yn parhau i fod yn rhwystr sy’n gwadu’r cyfleoedd y mae pobl ifanc yn eu haeddu - cyfleoedd i ddysgu, i ffynnu, ac i lunio eu dyfodol gyda gobaith. Mae’r argyfwng costau byw wedi dyfnhau’r anghydraddoldebau hyn, gan roi pwysau ychwanegol ar ddysgwyr a’u teuluoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Fel llais addysg bellach yng Nghymru, mae ColegauCymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd i bawb. Credwn y dylai pob dysgwr gael y cyfle i gyrraedd ei botensial llawn, gwaeth beth fo'i gefndir neu ei amgylchiadau. Trwy ein colegau, rydym yn gweithio i gael gwared ar rwystrau i addysg, darparu cefnogaeth hanfodol, a sicrhau bod addysg bellach yn lle o obaith, tegwch a chyfle. Mae gwerth cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae pobl ifanc Cymru yn iawn i fynnu dyfodol gwell - un sydd wedi'i adeiladu ar urddas, tosturi a gweithredu. Rydym yn adleisio eu galwad. Gyda'n gilydd, rhaid inni barhau i greu Cymru, a byd, lle nad yw tlodi bellach yn gyfyngiad ar freuddwydion, ond yn her yr ydym yn ei goresgyn gyda phenderfyniad ac undod.
#Heddwch2025
Gwybodaeth Bellach
Urdd Gobaith Cymru
Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025
15 Mai 2025
Adroddiad CoelgauCymru
Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru
Ebrill 2024