#VocTalks 22ain - 26ain Mehefin

Female learner with laptop.jpg

Mae #VocTalks yn weminarau byr, pwnc-benodol sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr coleg. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr sgwrsio â chyn-ddysgwyr sydd bellach yn gweithio yn eu dewis faes gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau iddynt.

Bydd y gweminarau yn digwydd am 10am a 2pm yn ystod wythnos 22ain – 26ain Mehefin 2020 a byddant yn cwmpasu'r sectorau canlynol:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Chwaraeon
  • Arlwyo
  • Busnes
  • Adeiladu
  • Celfyddydau Perfformio

Gyda'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, gwahoddir y rhai sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol mewn colegau ledled Cymru i gymryd rhan yn #VocTalks i glywed mwy am y byd gwaith a pha sgiliau a phrofiadau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer eu dewis yrfa.

Bydd y sgyrsiau hyn hefyd yn gyfle gwych i ddysgwyr iau sy'n gwneud penderfyniadau ar eu camau nesaf, gan ddangos yr ystod o gyfleoedd gwaith a all ddod o astudio cwrs mewn coleg addysg bellach.

Yn ystod yr amser anodd hwn, mae'n bwysig bod myfyrwyr yn parhau i gadw cysylltiad â'r diwydiant y maen nhw'n gobeithio gweithio ynddo. Trwy ddarparu platfform i siarad â chyn-fyfyrwyr, ein nod yw ysbrydoli dysgwyr presennol a darpar ddysgwyr i weld yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer y dyfodol.

Gwyliwch #VocTalks

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.