Diswyddiadau rhaglenni dysgu seiliedig ar waith: Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau hyblygrwydd mewn modelau darparu

Apprentices working on a car.png

Mae ColegauCymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau hyblygrwydd mewn modelau Dysgu Seiliedig ar Waith (work-based learning) wrth i ffigurau newydd ar brentisiaid sydd wedi'u rhoi ar ffyrlo neu sydd wedi eu diswyddo cael eu cyhoeddi. 

Gan barhau â'r duedd a welwyd o ffigurau a gyhoeddwyd ddechrau mis Medi, mae'r rhagolygon yn parhau i fod yn llwm. Y prentisiaid sy'n parhau i gael eu heffeithio fwyaf yw o hil gwyn neu gymysg, yn ifanc, yn wrywaidd, gyda'r sectorau adeiladu, lletygarwch a gwallt a harddwch yn cael eu taro caletaf. Mae'r rhai nad ydynt yn astudio prentisiaethau uwch, yn gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion, wedi'u cyflogi gan y sector preifat neu’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig ynghyd â'r prentisiaid hynny wedi eu hunan-nodi bod ganddynt 'brif anabledd a/neu anhawster dysgu' hefyd yn parhau i fod y prentisiaid a oedd wedi’u heffeithio fwyaf. 

Ar 25 Medi, roedd 2,980 prentis yn dal ar ffyrlo. Mae nifer y prentisiaid y rhoddwyd terfyn ar eu prentisiaeth yn sgil eu diswyddo bron wedi dyblu o 50 i 95 o'i gymharu â'r mis blaenorol. Roedd 180 prentis ychwanegol wedi eu diswyddo ond yn parhau i ddysgu tra bo’u darparwyr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall. 

Wrth i ni agosáu at ddiwedd Cynllun Cadw Swyddi Coronafirws llywodraeth y DU, mae ColegauCymru’n annog Llywodraeth Cymru i sicrhau hyblygrwydd ym modelau darpariaeth rhaglenni dysgu seiliedig ar waith wrth i'r sector lywio sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen a ffordd newydd o fyw mewn byd ôl-Covid. 

Dywedodd Arweinydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru, Barry Walters,

“Mae'r ffigurau'n dangos darlun llwm ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac un sy'n debygol o waethygu ddiwedd mis Hydref. Mae darparwyr yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod o hyd i gyflogaeth amgen i ddysgwyr sydd wedi eu rhoi ar ffyrlo neu sydd wedi eu diswyddo.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rhaid i Lywodraeth Cymru atgyfnerthu ei chefnogaeth a’i chyllid ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith. Bydd methu â gwneud hyn yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar ddysgwyr, colegau addysg bellach a’r cymunedau lleol y maent yn gweithredu ynddynt, ond ar allu’r economi i adfer ac ailadeiladu yn dilyn pandemig Covid19.” 

Gwybodaeth Bellach

Ystadegau Llywodraeth Cymru  
Prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19): hyd at 25 Medi 2020 
6 Hydref 2020  
  
ColegauCymru 
Effaith Covid19 i'w gweld yn glir mewn niferoedd prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod y pandemig 
28 Medi 2020  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.