Cystadleuaeth Codi Pwysau Colegau

Mae ColegauCymru yn falch o ymuno â Codi Pwysau Cymru i lansio #CodiPŵerAB, her codi pwysau newydd i ddysgwyr addysg bellach yn nhymor yr haf 2021. 

Mae’r gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr academi chwaraeon a'r rheini sydd eisoes yn codi pwysau'n gystadleuol gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn lleoliadau addysgol diogel. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru Rob Baynham,

“Rydym yn gyffrous ein bod yn gallu ailgyflwyno cystadleuaethau chwaraeon i golegau, a fydd yn hwb wrth inni ddechrau dod allan o gyfyngiadau Pandemig y gaeaf.  Mae dysgwyr a staff wedi gwynebu 12 mis heriol ac rydym yn awyddus i'w cefnogi i ddychwelyd yn ddiogel i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau corfforol." 

Ychwanegodd Simon Roach o Codi Pwysau Cymru,

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi’r gystadleuaeth amserol hon. Mae Codi Pwysau Cymru yn hyrwyddo iechyd, lles a ffitrwydd trwy hyfforddiant cryfder. Mae’r nodau hyn yn cyd-fynd yn agos â Strategaeth Lles Actif ColegauCymru" 

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn sesiynau cryfder a chyflyru coleg dan oruchwyliaeth gyda chanlyniadau'n cael eu coladu o bell er mwyn osgoi'r angen am gystadleuaeth wyneb yn wyneb rhwng colegau. Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal rhwng 26 Mai ac 11 Mehefin, gyda'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn fuan wedi hynny. Rydym yn ddiolchgar i noddwyr y gystadleuaeth SBD a Pullum am eu cefnogaeth. 

Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i gefnogi staff a dysgwyr wrth i golegau barhau i addasu i’r ffordd newydd o weithredu ac wrth iddynt ddychwelyd i chwaraeon a gweithgareddau lles actif eraill. 

Gwybodaeth Bellach

Rob Baynham
Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru
Robert.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 2020 - 2025 

           

    

 

 

 

 

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.