Colegau Cymru yn cipio’r tair safle uchaf yn rowndiau terfynol WorldSkills UK

55664017798_252b9bb4ce_z.jpg

Mae colegau addysg bellach yng Nghymru wedi perfformio’n rhagorol yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2026, gan sicrhau’r tair safle uchaf yn y tabl medalau cyffredinol ac arddangos talent, uchelgais a sgiliau technegol eithriadol dysgwyr ledled Cymru.

Daeth Grŵp Llandrillo Menai i frig tabl medalau’r DU gyda 19 pwynt medal, ac yna Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn yr ail safle gyda 17 pwynt, a Choleg Cambria yn y drydedd safle gyda 16. Llwyddodd Coleg Gŵyr Abertawe hefyd i sicrhau safle chweched ar y cyd, gyda naw pwynt.

Enillodd sefydliadau o Gymru 96 o’r 364 pwynt medal a ddyfarnwyd - mwy na chwarter cyfanswm y DU - gan gynnwys naw medal aur.

Dangosodd dysgwyr eu sgiliau ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Ymhlith yr enillwyr medalau aur o golegau Cymru roedd Edward Lee o Goleg Cambria (Cynnal a Chadw Awyrennau), Steffan Davies-Williams o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (Celfyddydau Coginio), Kaleigh Blears o Grŵp Llandrillo Menai (Gwallt-drin), Tegan Thomas o Goleg Penybont (Iechyd a Gofal Cymdeithasol), ac Evie McManus o Goleg Cambria (Therapi Harddwch).

Mae’r canlyniadau’n tanlinellu cryfder addysg alwedigaethol a thechnegol yng Nghymru, yn ogystal â’r rôl y mae colegau’n ei chwarae wrth ddatblygu’r gweithlu medrus iawn sydd ei angen ar gyflogwyr ac economi Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

“Mae hwn yn gamp wych i Gymru, a rhaid llongyfarch yn fawr bob dysgwr a phrentis a gystadlodd yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni.

“Mae gweld colegau Cymru yn cipio’r tair safle uchaf yn nhabl medalau’r DU yn ganlyniad eithriadol; mae’n adlewyrchu talent, ymroddiad ac uchelgais ein dysgwyr, yn ogystal ag arbenigedd ac ymrwymiad y staff sy’n eu cefnogi.

“Mae cystadlaethau sgiliau yn rhoi cyfle i ddysgwyr herio eu hunain, datblygu eu hyder a dangos yr hyn y gallant ei gyflawni ar y lefel uchaf posibl. Mae’r canlyniadau hyn yn rhywbeth y gall y sector addysg bellach cyfan yng Nghymru fod yn hynod falch ohono.

“Llongyfarchiadau i holl enillwyr, deiliaid medalau a chystadleuwyr eleni. Rydych chi’n llysgenhadon rhagorol dros eich colegau, dros addysg bellach a dros Gymru.”

Gwybodaeth Bellach

WorldSkillsUK

WorldSkills UK National Finals 2026 organisation league table

Full WorldSkills UK National Finals 2026 competition results

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.