Ymateb Ymgynghoriad
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Cymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd
Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 27 Ebrill 2025
Mae dysgwyr a staff addysg bellach yn awyddus i ddatblygu eu medrau Cymraeg ymhellach. Mae mentrau presennol mewn addysg bellach a gefnogir gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi defnydd llafar o'r Gymraeg i annog hyder i siaradwyr dwyieithog mewn lleoliadau addysg bellach. Mae data eleni’n dangos bod 35% o ddysgwyr o feysydd blaenoriaeth (Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Amaethyddiaeth, Chwaraeon a Hamdden, Diwydiannau Creadigol, Busnes, ac Adeiladu) a 71% o staff o’r adrannau academaidd yn cymryd rhan.
Yr her barhaus a wynebir gan golegau yw sicrhau bod digon o ddarlithwyr â’r sgiliau angenrheidiol i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o heriol mewn rhai sectorau, lle mae'n rhaid i'r darlithydd fod yn weithiwr proffesiynol deuol, gyda phrofiad uniongyrchol yn y diwydiant, a sgiliau addysgu Cymraeg. Tra bod gan sawl sefydliad rôl i’w chwarae, ac mae cydweithio i’w groesawu, mae maint yr her sy’n wynebu’r sector o ran prinder athrawon yn gofyn am arweiniad clir a chadarn ar lefel genedlaethol i yrru’r agenda yn ei blaen. Er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae angen buddsoddiad sylweddol.
Gwybodaeth Bellach
Clare Williams, Swyddog Polisi
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk