Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn gwaethygu’r argyfwng NEET, arweinwyr colegau’n rhybuddio

pexels-charlotte-may-5965691.jpg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb atodol heddiw, ond mae arweinwyr colegau’n dweud nad yw’n mynd i’r afael â’r hyn maent yn ei ddisgrifio fel argyfwng sy’n dyfnhau mewn cymorth i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs). 

Dywed ColegauCymru fod y setliad cyllido yn dod ar adeg hollbwysig, gyda cholegau’n wynebu diffyg cyllid o £30 miliwn o fis Medi ymlaen, ynghyd â lefelau record o geisiadau am gyrsiau. Mae arweinwyr yn rhybuddio y byddai methu ag ymyrryd ar frys yn gorfodi sefydliadau i wneud penderfyniadau anodd ynghylch darpariaeth a chapasiti ar adeg pan fo’r galw’n cynyddu’n sydyn. 

Mae’r sefydliad wedi codi pryderon droeon am y pwysau ariannol ar y sector, gan rybuddio yn ystod y tymor diwethaf yn y Senedd y gallai colegau, heb gyllid brys, fod yn methu â darparu lle i bob dysgwr sy’n ceisio lle. Dywed nad yw cyhoeddiad cyllideb heddiw yn adlewyrchu maint na brys yr her. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hangendyk, 

“Os na fyddwn yn gweithredu nawr, rydym yn peryglu miloedd yn rhagor o bobl ifanc yn dioddef oherwydd peidio â chael y cyfleoedd a’r cymorth y maent yn eu haeddu.” 

“Rydym yn cydnabod y dewisiadau anodd sy’n wynebu’r llywodraeth newydd, ond nid oes her fwy brys nac pwysicach na rhwystro cenhedlaeth arall o bobl ifanc rhag cael eu colli i ddiffyg ymgysylltiad hirdymor ag addysg a’r farchnad lafur.” 

Mae ColegauCymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i gydweithio ar gytundeb cyllidebol sy’n blaenoriaethu buddsoddiad mewn pobl ifanc, gan rybuddio bod diffyg gweithredu parhaus yn peri risg o niwed hirdymor i unigolion a’r economi Gymreig ehangach. 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Cyllideb Atodol Gyntaf 2026-27
23 June 2026

UK Government Independent Report 
Young people and work: interim report
The young people and work report is an independent review of the increase in the number of young people who are not in education, employment or training (NEET). 
28 May 2026

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk 

Mae colegau’n wynebu diffyg cyllid o £30 miliwn o fis Medi ymlaen, ynghyd â lefelau record o geisiadau am gyrsiau.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.