Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk:
‘Ar y diwrnod y mae Adroddiad Milburn yn cyflwyno cynigion pellgyrhaeddol i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), y realiti llwm yw y bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn golygu toriadau i gyllid addysg bellach.
‘Bydd y gyllideb yn golygu llai o gyfleoedd ym mhob cwr o Gymru a miloedd o ddysgwyr ifanc yn methu â sicrhau lle mewn coleg ym mis Medi. Bydd yn golygu dileu’n llwyr y grantiau sy’n cefnogi’r dysgwyr mwyaf agored i niwed, a bydd yn peryglu cyrsiau sgiliau oedolion hanfodol sy’n helpu busnesau i dyfu.
‘Os yw pleidiau’r Senedd o ddifrif ynghylch cefnogi pobl ifanc ac o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng NEET, yna mae angen i’r gyllideb hon newid a rhaid buddsoddi rhagor mewn colegau a darparwyr hyfforddiant.’
Gwybodaeth Bellach
Cyllideb Ddraft Llwyodraeth Cymru
Cyllideb Ddrafft 2027-2028 i 2029-2030
17 Tachwedd 2026
Adroddiad Annibynnol Llywodraeth y DU
From a Welfare State to a Working State: a new settlement for the next generation
17 Tachwedd 2026
Alex Still, Rheolwr Polisi
Alex.Still@ColegauCymru.ac.uk