L&WI Cymru: Llywodraeth Cymru: Archwiliad Sgiliau Cymru
Deadline for Submission: 25 Medi 2026
Mae cyflwyniad ColegauCymru yn tynnu sylw at brinder sgiliau parhaus ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu uwch, technoleg ddigidol, ynni glân a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Bydd y pwysau hwn yn dwysau o ganlyniad i sero net, deallusrwydd artiffisial (AI), awtomeiddio, newid demograffig a buddsoddi rhanbarthol, gan gynyddu'r galw am gyfuniad o sgiliau galwedigaethol, digidol, cynaliadwyedd, cyflogadwyedd ac arweinyddiaeth.
Dylai'r Archwiliad Sgiliau Cymru lywio Strategaeth Genedlaethol Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET), wedi'i chefnogi gan Awdurdod Sgiliau'r Dyfodol a fydd yn darparu gwybodaeth awdurdodol am y farchnad lafur ac yn alinio blaenoriaethau economaidd, cyllid, cymwysterau a darpariaeth. Mae'r cyflwyniad yn galw am fuddsoddiad parhaus, aml-flwyddyn mewn colegau, prentisiaethau, dysgu oedolion, cyflogadwyedd a darpariaeth dechnegol uwch, gan gynnwys llwybrau cryfach ar Lefelau 2 i 5.
Ymhlith y prif flaenoriaethau mae gwrthdroi'r toriadau i gyllid prentisiaethau, gwella llwybrau galwedigaethol a chyngor gyrfaoedd ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed, cefnogi mentrau bach a chanolig, cryfhau gweithlu addysg bellach, ac ehangu dysgu modiwlaidd, micro-gymwysterau a Chydnabod Dysgu Blaenorol. Dylai cynllunio rhanbarthol adlewyrchu cyfleoedd economaidd lleol wrth gynnal cydlynu cenedlaethol, gyda cholegau'n cael eu cydnabod fel partneriaid strategol wrth gyflawni uchelgeisiau economaidd a chymdeithasol Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Ymgynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk