ColegauCymru yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â gorfodi defnydd gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau

pexels-anna-shvets-3902881 (1).jpg

Yng ngoleuni penderfyniad heddiw gan Lywodraeth Cymru i beidio â gorfodi defnydd gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau o fis Medi, bydd colegau Addysg Bellach yng Nghymru, gyda chefnogaeth ColegauCymru, yn cymryd camau ar unwaith i adolygu'r ffordd orau ymlaen i'r sector.

Byddwn yn ymgynghori ar frys â’n haelodau er mwyn dod i benderfyniad ar draws y sector ar sut i symud ymlaen, gyda diogelwch dysgwyr a staff wrth wraidd ein penderfyniadau.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae ein penaethiaid yn ystyried defnyddio gorchuddion wyneb fel gofyniad ym mhob maes cymunedol o fewn colegau addysg bellach. Mae'n amlwg bod goblygiadau cost ac iechyd a diogelwch i'w hystyried. Mae hwn yn fater nad yw’n diflannu wrth inni agosáu at ailgychwyn addysgu ar gyfer pob oedran ledled Cymru.”

Gwybodaeth Bellach
Adolygu tystiolaeth o ran gorchuddion wyneb i blant a phobl ifanc (o dan 18) mewn lleoliadau addysg 26 Awst 2020
Y Grŵp Cyngor Technegol: gorchuddion wyneb i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.