Fideo newydd yn annog colegau ledled Ewrop i ddod o hyd i leoliadau gwaith mewn gwledydd Ewropeaidd

Europe Map.png

Yn dilyn cyfarfod pontio llwyddiannus Erasmobility ym mis Tachwedd 2021, mae fideo esboniadwy newydd wedi’i lansio gyda throslais gan Reolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCynmru i hyrwyddo platfform cyfnewid lleoliadau gwaith. 

Mae’r platfform ar-lein ar gael am ddim ac wedi ei hanelu at ganolfannau hyfforddiant galwedigaethol a cholegau iddynt allu helpu ei gilydd i ddod o hyd i leoliadau gwaith mewn gwledydd Ewropeaidd. 

Mae'r fideo yn esbonio sut mae platfform Erasmobility yn gweithio ac yn cael ei ddefnyddio i annog mwy o golegau galwedigaethol ac ysgolion ledled Ewrop i gofrestru. Dyma’r unig blatfform ‘chwilio partner’ sy’n ymroddedig i gyfnewidiadau rhwng dysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff. 

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn un o 10 partner UE mewn prosiect Cam Allweddol 2 Erasmus+ a arweinir gan CIFPF La Costera, Xativa, Sbaen. Er gwaethaf y cyfyngiadau teithio a osodwyd gan y Pandemig Covid19, mae'r prosiect wedi parhau i wneud cynnydd gyda phartneriaid y prosiect yn defnyddio offer cyfathrebu ar-lein i gynnal cyfarfodydd. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran, 

“Roedd yn gyffrous cael gwahoddiad i gyfrannu at y fideo a fydd, gobeithio, yn annog mwy o gofrestriadau o bob rhan o Ewrop. Gall y platfform fod o fudd i golegau addysg bellach yng Nghymru hyd at ddiwedd 2023 tra byddwn yn parhau i ddefnyddio ein cyllid Erasmus+ presennol.” 


Gwybodaeth Bellach 

Platfform cyfnewid lleoliadau gwaith Erasmobility 

Cysylltwch â’n Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.