Archebwch le

Cyflwyniad i ddefnyddio RPL

the-climate-reality-project-Hb6uWq0i4MI-unsplash.jpg

Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn rhan allweddol o unrhyw broses a all gysylltu dysgu anffurfiol â safonau a chymwysterau mynediad cydnabyddedig. Ar hyn o bryd, nid oes polisi cyffredinol yng Nghymru ar gyfer y broses hon er bod llawer o sefydliadau'n defnyddio RPL i wella cynnydd a chyfleoedd mewn addysg, hyfforddiant a gwaith.

Hoffem eich gwahodd chi, neu gydweithiwr, i fynychu'r seminar ar ddefnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol.

Mae'r sesiwn hwn wedi'i anelu at ymarferwyr a bydd yn canolbwyntio ar:  

  • dulliau ymarferol o ddefnyddio RPL 
  • yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r defnydd o RPL 

Swyddog Datblygu SCQFP, Fiona Garry, fydd yn arwain y seminar. 

ColegauCymru, Cydlynwyr Cenedlaethol y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (EQF), sy'n hwyluso'r seminar hwn ar ran Partneriaeth Fframwaith Credyd a Chymwysterau'r Alban (SCQFP).

Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. Yn y cyfamser, cysylltwch â Sian Holleran gydag unrhyw gwestiynau. Rhannwch y gwahoddiad hwn hefyd gyda chydweithwyr y credwch y gallai fod â diddordeb mewn mynychu.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.