Mae prosiect Taith Llwybr 2 ColegauCymru yn adeiladu ar brosiect Taith blaenorol a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â misogyniaeth yn y sector addysg bellach. Mae'r hyfforddiant tridiau hwn yn canolbwyntio ar y crefftau ac yn gwrs "hyfforddi'r hyfforddwr" a ddarperir gan EVA BC (ein partneriaid o Ganada). Bydd pob coleg yn enwebu dau aelod o staff sy'n gweithio mewn meysydd cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar grefftau i dderbyn yr hyfforddiant.
Gwybodaeth Bellach