Archebwch le

Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2026

24-10-24-Cynhadledd_Colegau_Cymru__070.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a fydd yn digwydd ar 5 Tachwedd 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

 * TUDALEN COFRESTRU AR AGOR * 

Daw Cynhadledd eleni ar adeg hollbwysig i addysg bellach yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir ychydig fisoedd ar ôl Etholiad y Senedd, yn canolbwyntio ar Wneud yr Achos dros Newid: blaenoriaethau addysg bellach ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.

ydym yn falch o groesawu Agored Cymru fel ein prif noddwr unwaith eto, gan barhau â'u cefnogaeth werthfawr i'r sector a’r digwyddiad blaenllaw hwn. Bydd y Gynhadledd yn dod â dros 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd. Bydd cyfle i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn dadleuon panel sy'n ysgogi meddwl, gweithdai rhyngweithiol, a rhwydweithio â chyfoedion, a hynny i gyd wrth arddangos cryfder ac effaith y sector addysg bellach. 

Gweithdai 
Bydd y Gynhadledd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau grŵp, gyda themâu gan gynnwys: 

  • Deallusrwydd Artiffisial - Newid system
  • Addysg oedolion - Beth sy'n gweithio?
  • Dysgu ac addysgu dwyieithog - Beth nesaf?
  • Diwygio cymwysterau
  • Dychwelyd i Erasmus+
  • Llwybrau Dysgu 16-19 - Cydweithio llwyddiannus
  • Cryfhau Llais y Dysgwr - Dysgu o’r Iseldiroedd
  • Prentisiaethau i Gymru - Y bennod nesaf

Noddwyr a Gofod Arddangos Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi digon o gyfle i gynrychiolwyr ymweld â'n gofod arddangos i rwydweithio a meithrin perthnasoedd. Yma gallwch ddod o hyd i fanylion y cyfleoedd sydd ar gael.

Gwybodaeth Bellach ac Chyfleoedd Nawdd 
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd noddi ar gael. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiynau cyffredinol eraill a allai fod gennych: Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk  

Ceir atebion i gwestiynau cyffredin ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin y Gynhadledd Flynyddol.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser
Location
Stadiwm Dinas Caerdydd
Heol Leckwith
Caerdydd
CF11 8AZ

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.