Archebwch le

Cynhadledd a Chinio Flynyddol ColegauCymru 2024

231012_Colegau_Cymru_cynhadledd_flynyddol__050.jpg

Addysg 5.0 - Dyfodol Addysg Bellach yng Nghymru 

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a gynhelir ar 24 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda chinio cynhadledd y noson gynt yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd. 

** TUDALEN COFRESTRU AR AGOR **

Bydd Cinio'r Gynhadledd, a noddir gan Agored Cymru, yn clywed gan Jason Mohammad, a fydd yn rhannu myfyrdodau ar ei daith o’r coleg i’w yrfa ddisglair yn y cyfryngau. 

Mae’r Gynhadledd, a noddir gan City & Guilds, yn addo dod â 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant, o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ynghyd i ddangos gwerth addysg bellach a rhannu syniadau am yr heriau sydd o’n blaenau. 

Prif Anerchiad y Gynhadledd 

Rydym wrth ein bodd y bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg Lynne Neagle AS, Prif Economegydd Cymru Dr Thomas Nicholls, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Derek Walker yn ymuno â ni. 

Bydd y digwyddiad yn cynnig amser i fyfyrio a rhwydweithio, ac yn hollbwysig edrych i’r dyfodol gyda’n gilydd, wrth inni groesawu’r newidiadau trawsnewidiol sydd o’n blaenau yn y ffordd y caiff addysg ôl-16 ei llywodraethu a’i chyflwyno yng Nghymru. Bydd y Gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ystyried beth sydd ei angen ar Gymru gan golegau yn y dyfodol, a sut y gallwn fynd i’r afael ar y cyd â’r anghenion sgiliau newidiol a gyflwynir gan megatrends byd-eang. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach. 

Gweithdai 

Bydd y gynhadledd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau gweithdy i ymchwilio i fwy o fanylion, gyda themâu yn cynnwys: 

  • Strategaeth VET - dysgu o arfer gorau rhyngwladol
  • Sut i wella ansawdd dysgu mewn model trydyddol
  • Y ffordd i sero net
  • Gwerth cymdeithasol - nawr ac yn y dyfodol
  • Prentisiaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol
  • Partneriaeth gymdeithasol ar gyfer y dyfodol
  • Lles actif ac amgylcheddau ffyniannus
  • Cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach - edrych tua'r dyfodol

Noddwyr a Gofod Arddangos 

Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi digon o gyfle i gynrychiolwyr ymweld â'n gofod arddangos i rwydweithio a meithrin perthnasoedd. 

Cofrestru 

** TUDALEN COFRESTRU AR AGOR **

Os hoffech i ni gysylltu â chi gyda'r ddolen archebu, e-bostiwch Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk

Gwybodaeth Bellach ac Ymholiadau Nawdd 

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd nawdd ar gael. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiynau cyffredinol eraill sydd gennych: Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk  

Fe welwch atebion i gwestiynau ychwanegol ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ym mis Hydref. 

Archebwch le
Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.