Archebwch le

Dysgwrdd Rhagfyr ColegauCymru

Teachmeet Bilingual Website Banner (1200 x 400 px).png

Mae Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru yn falch o rannu manylion cyfres digwyddiadau Dysgwrdd a gynhelir dros y misoedd nesaf.

Mae'r digwyddiadau hyn wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'u cynllunio i roi cyfle i rannu arfer da ac i gefnogi cyfnewid gwybodaeth rhwng cydweithwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru.

Bydd yr ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau 2 Rhagfyr 2021 rhwng 4.30yp a 5.30yp. Glenda Dowdell Thomas o Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion fydd yn cadeirio'r sesiwn. Byddwn yn clywed gan gyfranwyr o Grŵp Llandrillo Menai, Grŵp Colegau NPTC a Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion.

Gofynnwn i chi rannu manylion y digwyddiad gwych hwn gyda'ch cydweithwyr coleg.

Amlinedlliad y Rhaglen

  • Developing self-reflective independent learners
  • 20 Hour revision plan
  • Using a visualiser - modelling and feedback
  • Using Playlist as a transition tool from GCSE to A level
  • How can we ensure our students are using assessment criteria to improve their own work?
  • Word Wall: An interactive and inclusive tool to engage students in their studies and their independent learning
  • Critical thinking at A level
  • Use of multisensory feedback to enable and promote individual progress
  • Class Point - A new twist on the use of PowerPoint

Oes gyda chi gwestiwn?

Mae'r Dysgwrdd hwn yn addo bod yn sesiwn addysgiadol a gwerthfawr. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Yn y cyfamser, cysylltwch â helo@colegaucymru.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.