Archebwch le

Grŵp Trawsbleidiol Addysg Bellach a Sgiliau'r Dyfodol: Cydraddoldeb Hiliol ac Addysg Bellach

CPG Mailchimp Banner.png

Mae ColegauCymru yn falch o'ch gwahodd i gyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Addysg Bellach a Sgiliau'r Dyfodol, dan gadeiryddiaeth John Griffiths AS.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021 o 9.30yb - 10.30yb.

Yn dilyn lansiad arfaethedig partneriaeth ColegauCymru gyda'r Black FE Leadership Group (BFELG) ar 1 Rhagfyr 2021, byddwn yn trafod y pwnc a'r camau y gallwn i gyd eu cymryd i sicrhau Cymru wrth-hiliol yn fwy manwl.

  • Bydd Robin Landman, Aelod Gweithredol Black FE Leadership Group, yn siarad am waith y Grŵp a'r cyflawniadau nodedig hyd yma.
  • Bydd Kathryn Robson, Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru, yn trafod y gwaith y maent wedi'i wneud ar wrth-hiliaeth mewn dysgu cymunedol oedolion.
  • Bydd Mike James, Prif Swyddog Gweithredol, Coleg Caerdydd a'r Fro, yn canolbwyntio ar ddull y Coleg o gynyddu amrywiaeth a herio hiliaeth.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.