Mae ColegauCymru, mewn partneriaeth â Scottish Credit and Qualifications Framework (SCQF) yn hwyluso gweithdy am ddim ar ddefnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) gydag ymfudwyr gorfodol ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol yn rhan allweddol o unrhyw broses a all gysylltu dysgu anffurfiol ac anffurfiol â safonau a chymwysterau mynediad cydnabyddedig. Ar hyn o bryd, nid oes polisi cyffredinol yng Nghymru ar gyfer y broses hon er bod llawer o sefydliadau'n defnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol i wella cynnydd a chyfleoedd mewn addysg, hyfforddiant a gwaith.
Gwybodaeth Bellach
Dyddiad: Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021
Amser: 2.00yp - 4.30yp
Lleoliad: Ar lein - MS Teams
Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at ymarferwyr a staff rheng flaen a bydd yn canolbwyntio ar:
- dulliau ymarferol o ddefnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol
- adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r defnydd o Cydnabod Dysgu Blaenorol
Swyddog Datblygu SCQF, Fiona Garry, fydd yn arwain y sesiwn. Bydd Karen Adams, Twig Associates yn ymuno â Fiona.
Bydd Fiona yn rhoi cyflwyniad i Cydnabod Dysgu Blaenorol gyda rhai gweithgareddau rhyngweithiol ac wedi'u cefnogi gan astudiaethau achos. Bydd Karen yn esbonio sut mae Skills Recognition Scotland yn cael ei ddefnyddio i gefnogi mewnfudwyr gorfodol i mewn i waith neu hyfforddiant pellach trwy asesu sgiliau a phrofiad cyfredol.
Bydd cyfle i drafod sut y gallai Cymru gynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn a sut y gallai'r rhain gael eu gweithredu mewn lleoliad ymarferol neu a oes angen/datblygu hyfforddiant pellach.
Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. Yn y cyfamser, ebostiwch Sian Holleran i gofrestru'ch lle.
Rhannwch y gwahoddiad hwn hefyd gyda chydweithwyr a allai fod â diddordeb mewn mynychu.