Mae ColegauCymru yn falch o gynnal digwyddiad i lansio adroddiad newydd a fydd yn dangos gwerth cymdeithasol colegau addysg bellach yng Nghymru.
Cynhelir y digwyddiad ar 23 Ebrill yn yr Urdd, Gwersyll Caerdydd, Bae Caerdydd. Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan Grŵp Trawsbleidiol Addysg Bellach a Sgiliau’r Senedd, yn cael ei gadeirio gan John Griffiths AS, a bydd yn dod â chynrychiolwyr allweddol o’r sector a rhanddeiliaid ynghyd i drafod canfyddiadau'r adroddiad a'r camau nesaf.
Mae'r digwyddiad hwn yn wahoddiad yn unig.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Hollie Mitchell, Cynorthwyydd Cyfathrebu a Digwyddiadau Hollie.Mitchell@ColegauCymru.ac.uk