Yn dilyn cyfres gweminar hynod lwyddiannus ym mis Tachwedd 2020, mae ColegauCymru ac Emsi Burning Glass unwaith eto yn ymuno i edrych ar farchnad lafur Cymru a beth mae hyn yn ei olygu i'r sector addysg bellach.
Gyda cholegau yn cychwyn ar eu cylch cynllunio cwricwlwm nesaf, bydd y weminar hon yn eich helpu i fynd i'r afael â thueddiadau cyfredol y farchnad lafur a sut maen nhw wedi newid yn ystod blwyddyn bwysig.
Bydd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies, Prif Weithredwr Coleg Cambria Yana Williams a Dirprwy Bennaeth Coleg Penybont Viv Buckley yn ymuno â ni wrth i ni edrych ar sut y gall y sector a cholegau unigol ymateb i'r heriau niferus sydd o'n blaenau.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad: Dydd Iau 18 Tachwedd 2021
Amser: 9.30yb - 10.30yb
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
Bydd y digwyddiad AM DDIM hon yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol i bawb sydd â diddordeb yn y sector addysg bellach gan gynnwys uwch dimau rheoli, penaethiaid ysgol, rheolwyr canol a staff gweithredol.
Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.