Archebwch le

Dysgwrdd - Ysbrydoli addysgu arloesol mewn Adeiladwaith Addysg Bellach

TeachMeet Website Banner.png

Mae’n bleser gan Rwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru rannu manylion y trydydd mewn cyfres o ddigwyddiadau Dysgwrdd a gynhelir ym mis Chwefror.

Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i roi cyfle i rannu arfer da ac i gefnogi cyfnewid gwybodaeth rhwng cydweithwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru.

Bydd gan ein trydydd digwyddiad flas Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig a bydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 16 Chwefror 2022 rhwng 4.30yh a 6.00yh

Cofrestrwch Eich Lle am Ddim

Rhaglen 

Ein prif siaradwr fydd Katie Morrison o Kier Construction Group. Fel cyn-fyfyriwr Coleg Sir Benfro, mae Katie bellach yn gweithio fel Uwch Reolwr Safle ac mae’n angerddol dros hybu menywod yn niwydiant adeiladwaith a phynciau STEM. 

Cawn glywed gan Gareth Wyn Evans sy’n bennaeth ar Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd Gareth yn sôn am werth technoleg drochi ym maes Adeiladwaith tra bydd Huw Thomas o Goleg Sir Gar Coleg Ceredigion yn siarad am ei brofiadau o’r dechnoleg hon ar waith! 

Byddwn hefyd yn clywed gan Hannah Pearce a fydd yn rhannu manylion am sut mae Coleg Gŵyr Abertawe yn datblygu wrth gyflawni’r agenda ‘werdd’.

Cawn glywed cyfraniadau pellach oddi wrth Grŵp Colegau NPTC. Bydd sgyrsiau'n cynnwys Dwyieithrwydd mewn Adeiladwaith, Prosiect Cydweithredol Rhanbarthol mewn Adeiladwaith, Ymddygiad ac Ymgysylltiad Myfyrwyr ag Adeiladwith, ac Ymestyn a Herio mewn Adeiladwaith.
 
Daw sylwadau cloi’r digwyddiad gan Chris Curtis o Goleg Sir Benfro. Mae Chris hefyd yn Gadeirydd Rhanbarthol Cymru Cymdeithas Penaethiaid Adeiladwaith Prydain (BACH)
 
Rhannwch fanylion y digwyddiad gwych hwn gyda'ch cydweithwyr Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig.

Mae'r Dysgwrdd hwn yn argoeli i fod yn sesiwn addysgiadol a gwerthfawr i'r rhai sy'n cyflwyno cymwysterau adeiladwaith. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser
Location
Ar lein - MS Teams

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.