Archebwch le

Defnyddio RPL gydag ymfudwyr gorfodol

pexels-luis-quintero-2774556.jpg

Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn rhan allweddol o unrhyw broses a all gysylltu dysgu anffurfiol â safonau a chymwysterau mynediad cydnabyddedig. Ar hyn o bryd, nid oes polisi cyffredinol yng Nghymru ar gyfer y broses hon er bod llawer o sefydliadau'n defnyddio RPL i wella cynnydd a chyfleoedd mewn addysg, hyfforddiant a gwaith.

Mae'r seminar hwn wedi'i anelu at staff rheng flaen sy'n delio ag ymfudwyr gorfodol bob dydd a bydd yn canolbwyntio ar sut: 

  • y mae'r Alban wedi bod yn defnyddio RPL i gefnogi cleientiaid i gael gwaith a/neu hyfforddiant 
  • y gallai Cymru gynllunio i fynd i'r afael â materion sy'n defnyddio RPL gydag ymfudwyr gorfodol 

Julie Cavanagh, Pennaeth Partneriaethau a Chyfathrebu, SCQFP, a fydd yn arwain y seminar.

ColegauCymru, Cydlynwyr Cenedlaethol y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (EQF), sy'n hwyluso'r seminar hwn ar ran Partneriaeth Fframwaith Credyd a Chymwysterau'r Alban (SCQFP).

Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. Yn y cyfamser, cysylltwch â Sian Holleran gydag unrhyw gwestiynau. Rhannwch y gwahoddiad hwn hefyd gyda chydweithwyr y credwch y gallai fod â diddordeb mewn mynychu.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.