Gaeaf Llawn Lles - Her Awyr Agored 2022

DSC_0367.JPG

Mae ColegauCymru yn falch iawn o rannu manylion prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi colegau addysg bellach i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol trwy gynyddu mynediad i weithgareddau creadigol, chwaraeon a diwylliannol. Mae’r cyllid yn rhan o’r cynllun Adnewyddu a Diwygio a gyhoeddwyd yn hydref 2021 ac sydd wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ifanc yr effeithiwyd arnynt yn andwyol o ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid19. 
Bydd y prosiect yn ariannu gweithgareddau ar lefel leol gan gynnwys uwchsgilio dysgwyr chwaraeon fel hyfforddwyr cymunedol a darparu profiadau gweithgareddau i ddysgwyr llai actif a'r grwpiau hynny yr effeithir arnynt fwyaf gan y Pandemig. Daw’r prosiect i ben gyda digwyddiad lle bydd colegau’n dod at ei gilydd i roi cynnig ar weithgareddau newydd a rhannu profiadau o’r prosiect.

Gaeaf Llesiant - Her Awyr Agored 2022 
30 - 31 Mawrth 2022

Byddwn yn ymuno â'n partneriaid Partneriaeth Awyr Agored a Chwaraeon Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn sydd wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr coleg llai actif i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol fel chwaraeon dŵr, saethyddiaeth a dringo dan do, a fydd yn ei dro yn helpu i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanolfan Rock UK Summit yn Nhrelewis. Mae'r cyfleuster hwn yn lleoliad gwych sy'n ganolog i'r colegau addysg bellach sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn lefelau gweithgareddau yn ystod y Pandemig. 
 
Gwybodaeth Bellach

Rob Baynham 
Rheolwr Prosiect ColegauCymru ar gyfer Chwaraeon a Lles Actif
Rob.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Nia Brodrick 
Swyddog Prosiect ColegauCymru 
Nia.Brodrick@colegaucymru.ac.uk

Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.