Taking notes and working on laptop.jpg

Addysg Bellach: Galluogi Adnewyddu a Helpu i Adeiladu Gwell Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes yng Nghymru

Mae John Buchanan yn athro yn Nisgyblaeth Systemau Gwybodaeth Busnes, Ysgol Fusnes Prifysgol Sydney.  Mae wedi cynhyrchu llawer o gyhoeddiadau ysgolheigaidd ac ymchwil polisi ar waith a ffurfio sgiliau.  Cynhyrchwyd ei bapur diweddaraf, wedi ei baratoi ar y cyd â chydweithwyr o Awstralia, De Affrica a Canada, ar gyfer UNESCO ac mae’n ymwneud â The futures of work: what education can and cannot do.

Mae Julie Froud yn athro yn is-adran Pobl, Rheolaeth a Threfniadaeth Ysgol Fusnes Alliance Manchester, Prifysgol Manceinion. Mae ei hymchwil bresennol yn canolbwyntio ar y ffordd y gall ymagwedd economi sylfaenol tuag at adnewyddu economaidd a chymdeithasol helpu i lunio polisi ac ymarfer.  Mae hyn yn cynnwys polisi diwydiannol a datblygu economaidd lleol yn seiliedig ar le. Mae’n aelod o Gydweithfa yr Economi Sylfaenol y mae eu llyfr, Foundational Economy. The Infrastructure of Everyday Life, bellach wedi cael ei gyhoeddi yn Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Phortiwgaleg. 

Mae Mark Lang yn ymchwilydd academiadd annibynnol ac yn Ddarlithydd Cyswllt Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae ganddo brofiad helaeth o ddatblygu polisi ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac mae ganddo PhD mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.  Ei ddiddordebau penodol yw cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd yn seiliedig ar le.

Mae Caroline Lloyd yn athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.  Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sgiliau, trefniadaeth gwaith a marchnadoedd llafur, gyda diddordeb penodol mewn gwaith cyflog isel ac astudiaethau cymharol rhyngwladol. Ar y cyd, ysgrifennodd Skills in the Age of Over-Qualification: Comparing Service Sector Work in Europe ac mae ar hyn o bryd yn ymchwilio i dechnolegau digidol yn y gweithle.

Mae Bruce Smith yn Ymchwilydd Cyswllt Anrhydeddus, yng Nghyfadran Meddygaeth ac Iechyd, Prifysgol Sydney.  Mae wedi cynghori Llywodraeth Awstralia ar ystod o faterion polisi cymdeithasol, yn cynnwys addysg, y gwasanaethau cymdeithasol a materion Cynhenid.  Mae wedi cyhoeddi ac mae ganddo PhD yn hanes addysg Awstralia.

Mae Karel Williams yn athro emeritws ym Mhrifysgol Manceinion ac yn aelod o gydweithfa yr economi sylfaenol a’i llyfr diweddaraf yw Foundational Economy: the Infrastructure of Everyday Life. Mae’n gysylltiedig â datblygu polisïau arloesol sydd yn newid yr hyn sydd yn bwysig i ddinasyddion yng Nghymru, ei wlad enedigol, a thu hwnt. Mae adroddiadau ymchwil diweddar ar ofal iechyd y DU ar ôl Covid ac ar economi pren Cymru ar gael ar wefan foundationaleconomy.com.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.